Saturday, 9 January 2010

Dim cwrs Cymraeg

Oeddwwn i'n fod ar cwrs penwythnos ym Mhontypwl heddiw - ond - oherwydd yr eira i gyd tydy'r cwrs ddim yn rhedeg. Trueni mawr. (Ar ol bwcio gwesty a prynu'r tocynnau tren...) Felly dwi'n gwylio S4c i drio cael dipyn o Gymraeg yn Lloegr. Mae Bro yn Portdinllaen wythnos yma - mae gen i cofion dda iawn o'r ardal. Roeddwn yn arfer mynd yna hefo fy ffrind pan oedd ei mam hi yn chwaera golff yna. Dwi'n cofio trio nofio yn y mor yn Ebrill. (Dim syniad da!...) a hefyd gweld morloi .
Baswn yn hoffi mynd yn ol i wneud dipyn o gerdded yna.

Ah, mae Bro ar y teledu eto - a tro yma yn Nhrenewydd, lle, yn ol bob son mae Iolo Williams yn byw (neu lle yr oedd o yn buw unwaith, mae'n siwr) Dwi erioed wedi bod yna.

3 comments:

  1. Gobeithio dych chi'n gallu ailddysgu tro nesaf!

    Mae'n braf i weld rhywun arall sy'n blogio yn yr hen iaith.

    ReplyDelete
  2. Roedd fy rhieni i'n byw yn y Drenewydd ychydig cyn i mi gael fy ngheni - dw i'n reit balch eu bod nhw wedi symyd, mae'n edrych yn le reit difals pan dw i'n gyrru trwyddo - Milton Keyns Cymru efallai! (tynnu coes ydw i, dw i erioed wedi bod i Milton Keynes).

    ReplyDelete
  3. Wel bydd rhaid i fi fynd i Drenewydd - oedd o'n edrych reit diddorol (di MK ddim yn ddrwg - ond does dim llawer o Gymraeg yma) a ia, dwi'n siwr bydd y cwrs yn cael ei ail sefydlu. Carl - mae na lawer o flogiau Cymraeg ar gael rwan.

    ReplyDelete