Byr ag aml. Dyna be ddwedodd Vaughan Roderick ar Pethau neithiwr, pan oedd yn ymateb i gwestiwn am gyngor i flogwyr. Wel, mae’n debyg fy mod i’n methu’r ddau. Ond mae wahannol ddulliau o flogio gyda wahannol bwrpasau. Mi faswn i’n meddwl efallai ei fod o’n bwysig i rai flogwyr (fel Vaughan Roderick?) gwneud siwr eu bod yn postio yn aml er mwyn cael sylw y cyhoedd? Mae rhai eraill, fel Bethan Gwanas, dim yn postio’n aml bob amser– a hefyd weithiau yn creu blogiau hir – ond wastad yn ddiddorol (yn fy marn i).
Mae’r byd blogio Cymraeg yn weddol fach, o hyd. Awgrymodd Vaughan Roderick, ar y rhaglen, mai efallai bod lawer o bobl ddim yn gyffyrddus yn sgrifennu mewn Cymraeg. A roedd o’n son am y rheini sydd yn siarad Cymraeg fel iaith cyntaf.
Ond efallai bod rhywbeth yn y syniad o fyr ag aml. Dwi am trio bostio yn fwy aml – hyd yn oed os ydwi ond eisaiu son am y brwydr dwi’n cael, yn aml, yn trio cadw’r Cymraeg I fynny – a hyd yn oed gwella fy Ngymraeg, tra fy mod yn byw yng nghanol Lloegr…..