Ailddysgu

Friday 29 October 2010

Darllen i ehangu geirfa

Wn I ddim pa fath o adolygiad cafodd Grace Roberts am y llyfr “Drysfa” a cohoeddwyd yn 1991 ond dwi wedi cael lot o fwynhad wrth ei ddarllen o. Gorffenais darllen Aderyn Gloyn Byw (a enillodd gwobr Daniel Owen eleni) rhyw bythefnos yn ol ac ro’n i’n awyddus I ddarllen llyfr arall gan yr un awdures. Mae’r ddau lyfr wedi bod dipyn yn annoddach i fi na rhai eraill, hefo lawer o eiriau newydd. Fel dysgwraig, mae dod ar draws geiriau newydd yn bwysig os dwi eisiau ehangu fy ngeirfa. Fel dwed Lowri Roberts am y teitl: Yr hyn a awgrymir yw bod un newid bach - symud ysgafn glöyn byw, dyweder - yn gallu arwain at ganlyniadau tra gwahanol.

Mae’r nofel arall, cynharach, hefyd yn trin sut mae digwyddiadau ( rhei mawr yn ogystal rhei bach) yn newid bywydau y cymeriadau. Er ei fod hi’n hawdd I ddarllen mae hi’n defnyddio lawer o eiriau sydd ddim yn gyfarwydd imi. A mae hynny’n beth dda!

Friday 22 October 2010

Y pannas cyntaf a'r aubergine olaf



Dyma'r pannas cyntaf dwi erioed wedi tyfu (cyn belled a dwi'n cofio). Mae nhw'n iawn, yndyn? R'on i'n meddwl efallai fy mod i ddim wedi gadael digon o le rhyngddyn nhw, felly roedd rhaid i mi godi rhai ohonnyn nhw i weld. A dyma be ges i. R'on i reit hapus a wnai adael y lleill am dipyn. Stori wahanol hefo'r aubergines. (Oes gair Cymraeg, tybed?) Roedd ryw ddeuddeg o flanhigion yn y ty gwydr eleni. Fel arfer, mae nhw'n gneud yn dda iawn - ac yn ddefnyddiol iawn hefyd. Ond eleni, fel llynedd, ches i ddim llawer o ffrwythau. Efallai ei bod ni yn teimlo'r effaith o ddiffyg gwennyn, yn barod. Pwy a wyr. Ond dwi ddim yn siwr os dyfai rhein blwyddyn nesaf - ac os gwnaf, byddaf yn gwrteithio nhw fy hun hefo brwsh bach (neu fy mysau!) A'r un olaf sydd yn y llun - coginiais o wythnos diwethaf - ac oedd o'n flasu'n hyfryd.

Son am flasu, gwyliais y rhaglen cynta o'r gyfres newydd o Dudley, neithiwr. Ac oedd o yng Nghaernarfon - fy hen dref i! - yn gwneud lobscows - yn cystadlu hefo rhywun o'r dre i weld ba ryceit fydd yn ennill.

Labels:

Wednesday 20 October 2010

Madarch



Ar ol son am ddiffyg blogio es i flog garddio Bethan Gwanas a gweld bod hithau hefyd wedi methu flogio am dipyn felly dwi mean cwmni da. R'on yn falch clywed bod llyfr newydd ganddi hi (Yn ol Ii Gbara). Welsoch chi y gyfres? Bydd o ar fy restr Dolig (os bydd o ar gael erbyn Dolig). Hefyd mae Bethan wedi gwneud rhywbeth dwi wedi bod yn ysu gwneud am amser. Cwrs Madrach. Dwi wastad wedi bod yn hoff iawn o fwyta a casglu nhw a wedi bwyta dipyn o fadrach gwyllt dros y blynyddoedd - fel hon yn y llun er engraith. (Wnes i ei fwyta - oeddwn i digon siwr nad oedd hi'n wenwynog....ond....) Ond wrth tyfu'n hyn dwi'n fwy ofalus a mae angen cwrs. Ar ol ymddeol falle?

Blogio...neu ddim

Er fy mod i wedi gaddo (i fi fy hun) fy mod i am gyfranu i'r blog yn fwy aml, dwi wedi methu. Dwi ddim yn siwr be ydi’r gyfundrefn gorau i wneud hyn. Un o’r rhwystrau mwyaf ydi fy mod i ddim yn cael hi’n hawdd i sgwennu yn Gymraeg. Mae siarad yn un peth (er dwi’n anghofio llawer o eiriau) ond sgwennu yn gwbl wahanol. Ond mae na baradocs yma, wrth sgwrs, am fod un amcan (reit bwysig) o’r blog ydi cael ymarfer sgwennu yn Gymraeg. Felly does dim dwy waith amdanni – rhaid cael disgyblaeth o rywle.

Monday 4 October 2010

Bwyd yn rhad ac am ddim



Dw i ddim wedi cyfrannu i’r blog yma ers dipyn – efalla oherwydd dwi wedi bod yn brysur yn tynnu’r chwyn o’r ardd, trefnu dipyn arna hi cyn y gaeaf a hefyd yn casglu’r cynhaeaf . Dw i wedi son o’r blaen bod y planhigion mafon ddim gystal a ddylen nhw fod – ond serch hyn, dyn ni wedi cael digonnedd o aeron. Mae’n digalonnog gweld yr haf yn dod I ben, ond un cysur ydi’r cynhaeaf. Amser yma o’r blwyddyn ydyn ni’n cael y pwmpeni, yr aeron, yr afalau ac y gellyg. Ond dydi’r ffrwythau ddim wedi dod ymlaen mor dda eleni. Mae’r afalau cyntau yn dod o’r coeden “Discovery” sydd ger y wal. Mae rhain yn aeddfedu yn gynnar - mis Gorffenaf neu Awst ond dydy nhw ddim yn cadw’n dda. Wedyn mae’r “Laxton” yn dod – ond eleni – ond un afal! Mae’r coed hyn yn medru tueddi frwythi bod dwy flynedd ac unwaith mae’r patrwm wedi dechrau, mae’n annodd torri fo .

Mae gennyn ni goed afal eraill, ar wahan i’r ddwy goeden yn yr ardd – yn y perllan anghyfreithlon – lle dwi’n gwneud fy ngarddio gerila. Ond mae rhain yn ifanc a dim wedi ffrwytho llawer eto. Wedi deud hyn, roedd sawl gellygen ar y pren gellyg. Ond ychydig iawn o afalau ar y dwy goeden afal bwyta – a hefyd dim llawer o gnau ar y coeden cnau.

Ond mae llefydd eraill i gael ffrwyth. Cyn I’r tywydd waethygu (mae hi wedi bod yn wlyb iawn yn ddiweddar…) es I hel mwyar duon. Mae na lawer o lefydd i gasglu mwyar duon o gwmpas – a hefyd perllen gymdeithasol dim yn bell o lle dwi’n gweithio. Hefyd mae coeden afal dim yn bell o’r ty, sydd ddim ar tir preifat – a mae digon o afalau sydd wedi disgyn yn y gwynt ar gael.