Ailddysgu

Monday 27 June 2011

Tatws newydd o'r ardd


Newydd dod adre ar ol bod ar ein gwyliau yn Guernsey (efalla bydd na flog arall am y gwyliau) a wedi treulio rhan o'r dydd yn yr ardd yn dyfrio a chwynnu yn yr ardd. Hefyd, cynaeafu'r cnawd gynta o'r tatws fel y gwelir yn y llun.

Labels:

Friday 17 June 2011

Y mwyalchen ar Mafon rhan dau


Efallla eich bod chi'n cofio fy mod i'n cwyno bod y teulu fwyalchen yn dwyn y Mafon. Ers hynny, clywais ar Springwatch bod ymchwil yn ddangos bod eu pwysau wedi gostwng y gwanwyn yma hefo'r tywydd sych. Mae'n amlwg eu bod nhw'n dioddef, fel adar eraill, yn y sychder. dydyn nhw ddim yn medru cael eu bwyd arferol - h.y. prygenwair. Felly dwi wedi newid fy meddwl am y Mafon.

Friday 10 June 2011

Sychder



Mae’n swyddogol, felly. Mae gennyn ni sychder. Wn i ddim os oes gair arall am “drought“? Ond dyna be ddwedodd y geiridadur. Fel gwelir yn y lluniau, dydi'r tirlun ddim more wyrdd a ddylai fod ym mis Mehefin. A mae'r afon yn isel iawn.

Mae’r gardd yma wed bod yn dioddef am dipyn. Er ein bod ni wedi cael dipyn (bach) o law yn ddiweddar, dydi o ddim yn treiddio’r tir digon. Mi fydda i felly yn chwilio am blanhigion sy’n ymdopi hefo sychder ac yn trio cael mwy o lysiau sydd ddim angen gymaint o ddyfrio pan mae o’n sych.

Un posibilrwydd ydi asparagws. Mae gennyn ni un blanhigyn sy’n gwneud yn dda. Felly dwi’n meddwl cael mwy.

Monday 6 June 2011

Ar lafar: tafodiaeth Cymraeg


Ro’n i am flogio am teithio i’r gwaith heddiw, ond nes i wylio Ar Lafar – rhaglen newydd am tafodiaeth. Ifor ap Glyn sydd yn cyflwyno’r rhaglen a mi fydd o yn crwydro trwy Cymru. A wyddoch chi be? R’oedd y rhan gyntaf o’r rhaglen cyntaf yn dod o Gaernarfon – fy hen dre i. Ac r’oedd Ifor an Glyn yn sôn am rhai cofis hefo dim digon hyder hefo ei hiaith ei hunan (sy’n peth drist). Dwi’n cofio’r geiriau am pres ( yr hen bres) fel niwc (ceiniog) a hog (swllt). Ac o’r diwedd dwi wedi darganfu be ydi giaman – cath. Dyma wefan sydd yn rhoi dipyn mwy o wybodaeth am iaith y cofis.

http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/caernarfon/pages/geiriau.shtml

R’oedd yr ail rhan yn edrych ar yr archif yn Sain Ffagan a sut r’oedd y tafodiaeth yn cael gofnodi. Rhaglen ddiddorol – a dwi’n gobeithio dod I dallt dipyn o dafodiaeth arall trwy’r cyfres yma yn y dyfodol. Dwi'n cael trafferth hefo rhai tafodiaeth - e.e. dwi wedi bod yn darllen llyfrau Gwen Parrott (mwy mewn blog arall), a dwi'n mwynhau nhw, ond dwi'n cael hi'n annodd dallt rhan o'r tafodiaeth.

Sunday 5 June 2011

Mafon, Mwyalchen a Methiant yn yr ardd



Mae' rhai o’r mafon yn barod ond does na ddim llawer i'w gweld. Dwi'n meddwyl bod y fwyalchen sy'n nythu yn y coden lle roedd yr ieir (a lle mae'r tatws eleni) yn bwyta nhw. Dwi'n cofio fy ffrind Pat yn dweud ei bod hi ond yn tyfu mafon hydref ar ei rhandir achos bod yr adar yn cymryd nhw i gyd. Ar y pryd, doedd dim problem gennyn ni - a does dim problem wedi bod ers hynnu hyd at eleni. Mae o wedi bod yn sych iawn iawn a falle bod yr adar dim yn medru darganfu ei bwyd arferol. Beth bynnag - mae'r mafon yn diflannu. A dwi'n meddwl unwaith iddyn nhw gael blas ar y ffrwythau, bydd na dim mynd yn ôl. O wel.

Dwi ddim wedi bod yn llwyddianus iwan chwaith, hyd a hyn, hefo'r llysiau. Mae'r llun yn dangos y gwely lle rhois hadau y ffa ffrengig - dipyn o amswer yn ôl, rŵan, ond, does dim byd wedi dangos. Ac yn y tŷ gwydr, mae'r pupurau a'r aubergines yn edrych dipyn yn sâl, a hanner y sweetcorn dim wedi dangos chwaith. Felly dim byd amdani ond plannu y ffa eto, a'r sweet corn.
Ond o’r diwedd, dyn ni wedi cael dipyn mwy o law. A falle bydd hyn yn helpu. Dwi wedi bod yn y farchnad blodau yn Llundain yn Colombia Road, heddiw - a dyna be ydi’r lluniau arall.

Labels:

Thursday 2 June 2011

Cwmni Da a Byw yn yr Ardd



Mi ges i ddiwrnod cyffrous ddoe hefo Cwmni Da yma yn ffilmio darn bach ar gyfer y rhaglen Byw yn yr Ardd. Ar ôl blogio am y perllen angyfreithlon mi ges i ebost can cynhyrchwyr Byw yn yr Ardd yn gofyn am mwy wybodaeth a.y.y.b. A’r canlyniad oedd.... cynllun i ffilmio yn yr ardd yma - a dyna be ddigwyddodd ddoe.

Doedd dim llawer o rybudd a felly r’oedden i yn gweithio’n galed ar yr ardd am bythefnos - ac yn medru taflu pethau allan a sortio allan pethau nad oedden ni wedi gwneud dim byd hefo am oes! Chwynnu; dyfrio; tocio; torri’r gwallt a tacluso - a mwy o ddyfrio, a trio llenwi un neu ddau o’r bylchau lle bu farw planhigion dros y gaeaf caled. Hefyd, r’oedd rhaid trio ehangu fy ngeirfa garddio - a dysgu’r geiriau Cymraeg (ond i anghofio nhw’n syth bîn!) Mae o wedi bod yn frysur iawn yma.

A gewch chi weld y ganlyniad ar y rhaglen. Wn i ddim pan fydd yn cael ei ddarlledu. A dwi’m yn gwybod os dwi wedi cyfathrebu pan fy mod I yn garddio. I fi, mae garddio yn dod a sawl pethau i’w gilydd: (1) bod cyn wyrdd a bosib - a mae medru bwyta llysiau o’r ardd yn fy ngalluogi i cael bwyd lleol iawn - a mewn tymor - a defnyddio’r gwastraff a chwyn i wneud compost; (2) fy diddordeb mewn natur - mae gerddi yn rhoi gynefin bwysig a lloches i rai adar, drychfilion fel gwennyn ac annifeiliaid fel llyffantod - yn enwedig a (3) cael bwyd blasys sy’n ffres. (Oes na gair well am “fresh“ tybed?), Ond fel dwi’n dweud, dwi ddim yn gwybod os bydd hyn yn amlwg. R’oedd o’n anodd cofio be o’n i isio deud a hefyd cofio’r geiriau Cymraeg weithiau.

Labels: