Ailddysgu

Wednesday 28 September 2011

Haf Bach Mihangel


Mae hi mor braf yma ar y funud – yr haul yn boeth iawn yng nghanol y dydd, yr awyr yn las, las. Dim cymylau, ond tywydd sych, heulog. Felly bore yma es i ar dro dipyn hirach nac arfer efo’r ci, gan fy mod i ar fy ngwyliau o’r gwaith am wythnos. A dyma llun o’r afon yn yr haul.


A wedyn yn ol i weithio yn yr ardd ac yn y tŷ gwydr. Yfory dan ni'n mynd i Ardal y LLynoedd (Lake District - ydi hwn yn iawn tybed?) Mae'r arolygion yn dda hefo'r tywydd, felly dwi'n edrych ymlaen at ymlacio a cerdded a bwyta'n dda. My fyddan yn mynd a rhan o'n cynnyrch hefo ni.

Sunday 25 September 2011

Dechrau'r hydref



Dyn ni wedi cael cynhaeaf da iawn eleni - a mae o’n para o hyd. Mae arolygion y tywydd yn dda - yn sôn am haf bach mihangel - felly dwi ddim am tynu allan y courgettes, na’r ffa, eto. Mae’r ffa dringo wedi gorffen - a gyda llaw - ar ôl y cwyno a gorfod planu eto a eto, r’oedd y ffa Ffrangeg bach yn dda iawn yn y diwedd. Dwi hefyd yn arbfrofi efo bresych hwyr. Mae planhigion bach, bach yn tyfu yn y tŷ gwydr, a rhai dipyn mwy - planhigion a phrynais o’r farchnad y ffermwyr - wedi cael ei rhoi yn yr ardd. Dwi ddim yn siwr sut hwyl fydd arnyn nhw, mae o braidd yn hwyr yn y tymor, ond gawn ni weld.

Dyma aubergine o’r ty gwydr. Mae ryw hanner dwsin arall yna hefyd, yn dod ymlaen.

A mae’r mafon hydref yn gwneud yn dda iawn eleni hefyd.

Friday 16 September 2011

Casglu bwyd gwyllt


Rydyn wedi trefnu mynd am daith bach hefo Jane Perone, sydd yn gohebydd garddio y Guardian. Mae hi’n sgwennu blogiau hyfryd. Heddiw dyn ni’n cwrdd mewn tafarn am be sydd wedi disgrifio yn Saesneg fel “Foraging“. Os dych chi’n gwybod be ydi Foraging yn y Gymraeg, dwedwch wrtha i, plîs!

Beth bynnag, dwi’n hoff o gasglu pethau i fwyta, os medra i. Mae rhaid dweud fy mod i ddim wedi casglu mwyar duon eleni o gwbl - rhy brysur. Ond mi welais fadarch, dydd Sadwrn diwethaf (yn y llun). Mae rhaid bod yn ofalus, wrth sgwrs, efo madarch gwyllt. Blynyddoedd un ôl, roedden yn casglu pob fath o fadarch, ac y edrych yn y llyfr i sicrhau ei fod yn iawn i fwyta. Ond dipyn wedyn darganfais fod yna mwy o fadarch gwenwynig nag oedd yn ddangos yn ein llyfr ni! Rwan dwi yn hŷn, dwi’n ofalus iawn. Ond ron wedi bwyta hein o’r blaen a does na ddim madarch gwenwynig fel hein. Wedi dweud hyn, wnaethon ni ddim bwyta'r cwbl - a mi roedd yn flasus iawn. Ond gair o rybydd - ar ol sgwenu hyn, es yn ol i flog garddio Bethan, a oedd yn son am ei phrofiad ar cwrs madarch llynedd - a mae hi'n dweud bod na fadarch sydd yn debyg ond llai sydd yn wenwynig.

Thursday 8 September 2011

Darlledu Byw Yn yr Ardd - Medi 14th, 20.25, S4C


Siaradais am ffilmio ar gyfer Byw yn yr Ardd mewn blog ym mis Mehefin. Mae’r rhaglen yn cael ei ddarlledu wythnos nesaf, Medi 14th am 20.25. Bydd ail gyfle i weld y rhaglen ar brynhawn Sadwrn Medi 17eg am 13.00 o'r gloch. Ers i’r ffilmio, mae pethau wedi dod ymlaen yn yr ardd yn dda iawn. Ym Mehefin, ron yn ymladd yn erbyn pryfed gwyrdd yn y tŷ gwydr, roedd y ffrwythau ar y coed yn fy mherllan gerila yn fach iawn, a ron yn cael traffeth efo’r ffa. Erbyn hyn, dyn ni wedi casglu pwysau o eirin, afalau coginio a cnau oddiwrth y coed yn y perllan anghyreithol a hefyd afalau ac eirin o’r ardd, llwyth o ffa a llysiau erill, a’r tŷ gwydr wedi bod yn dda hefyd. Wedi cael domatos, ciwcymber, pupurau a mwy i ddod, ac aubergines hefyd.

Dwi’n edrych ymlaen i weld sut oedd yr ardd yn ôl ym Mehefin - a sut siap oedd ar fy Nhymraeg i - dim rhy ddrwg, gobeithio..............