Ailddysgu

Wednesday 29 February 2012

Dysgu ieithoedd - llawer ohonyn nhw!

Diolch i Geraint Price, rheolwr canolfan Gwent (Cymraeg i Oedolion) am y cysylltiad yma

Sunday 26 February 2012

Dechrau'r gwanwyn yn yr ardd?



Mae'r tywydd yn fendigedig y penwythnos ymaf - a dyma fi efo ryw byg a dim yn teimlo'd ddigon da i fynd allan i'r ardd.........ond ddoe mi lwyddiais i blannu hadau ffa, ac i docio'r mafion (roeddwn wedi dechrau ond dim wedi gorffen). Sylwais wrth gwneud hyn bod y panas a oedd ar ol yn y ddaear yn aildyfu, felly dwi wedi palu nhw i fynny. Mae wedi bod reit gynnes am yr amser o'r flwyddyn, a mae'r crocysus yn denu gwennyn meirch gynnar. Mae fy mab hefyd wedi bod yn rhoi ochrau pren i'r gwlau llysiau - i gadw'r pridd a'r tail i mewn, felly mae na wely newydd sbon i'r tatws pan mae nhw'n barod i blannu..

Thursday 23 February 2012

Yr iaith

Mae na dipyn o ddadl wedi bod yn ddiweddar ynglyn a'r iaith yn dilyn adroddiad ein bod ni'n colli 3,000 o siadawyr Cymraeg bob blwyddyn. Dwi'n cytuno'n llwyr efo Bethan Gwanas am yr angen i gynorthwyo'r rhai sydd yn dysgu Cymraeg wedi symud i Gymru. Ond weithiau dan ni'n anghofio, braidd, pa mor annodd ydy dysgu iaith newydd. Dwi'n cofio dysgu Eidaleg efo fy ngŵr, gyda gwersi nos unwaith yr wythnos. Un peth a wnaeth wahaniaeth oedd treulio bythefnos yn yr Eidal yn dysgu mewn ysgol iaith ac aros gyda teulu lleol - lle roedd neb yn siarad Saesneg. Yn anffodus, mae ddylanwad y Saesneg, a'r ffaith bod pob Cymro a Cymraes yn medru siarad Saesneg yn gwneud dysgu Cymraeg yn annoddach. Felly mae cwrsi preswyl a dwys yn bwysig yn fy marn i. Hefyd, mae statws dysgu ieithoedd yn gyffredinol yn y wlad hon yn isel iawn. Mae'r rhan fwyaf o bobl gyda Saesneg fel ei hiaith gyntaf dim ond yn medru siarad Saesneg - a dydi'r ffaith bod dim rhaid i ni ddysgu iaith arall yn yr ysgol dim yn helpu llawer, chwaith. Un peth dwi ddim wedi clywed amdani yn y dadl hon yw'r ffaith bod dysgu un iaith arall yn help mawr i fynd ymlaen i ddysgu ieithoedd eraill. Dwi'n sicr bod fy ngwybodaeth o Gymraeg (er iddo fod yn fregus, braidd) yn help fawr pan ddechrais i ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol - a mae ymchwil yn dangos y fanteision o fod yn ddwyieithog hefyd. A mae'n amlwg bod dysgu iaith yn beth dda i helpu atal dimentia. Felly mae na rhesymau eraill dros dysgu Cymraeg hefyd!

Sunday 19 February 2012

Yr ardd, yr haul a darllen


Mae'n amlwg bod gwastraff coffi yn dda i'r ardd. Mae'r ffreuty gwaith yn rhoi'r gwastraff i bwy bynnag sydd eisiau cymryd bag yn rhad ac am ddim. Felly dwi wedi dod a bag adref a wedi ei roi ar y compost. Ond efallai byddaf yn trio ffyrdd eraill o ddefnyddio'r gwastraff coffi yn yr ardd. Mae'n bendant yn beth mwy wyrdd i ddefnyddio'r gwasgtraff coffi yn hytrach na taflu fo.

Dwi ddim wedi dechrau gweithio yn yr ardd o ddifri y flwyddyn yma eto. Dwi wedi dechrau glanhau y ty gwydr a wedi tocio rhai o'r planhigion mefus, ond gyda'r tywydd oed (a llwyd) diweddar, dydi'r tywydd ddim wedi bod yn addas i wiethio ynddi hi.

Ond heddiw, r'oedd yn ddiwrnod ardderchog - er ei fod yn oer. A mae'r letys wedi dechrau tyfu (planhigion bach, bach, bach) yn osgystal a'r planhigion salad a chafodd ei ddechrau yn yr Hydref hwyr yn dechrau tyfu'n dda rwan.

Dwi wedi gorffen y ddau lyfr r'on i'n darllen - a'r ddau yn dda iawn, yn enwedig Pwll Ynfyd. Dwi'n edrych ymlaen am y llyfrau nesa am y brif gymeriad.

Thursday 9 February 2012

Llyfrau newydd

Mi ddaeth dday lyfr drwy'r post ddoe: archeb o Balas Prints yng Nghaernarfon (sy'n ardderchog am anfon llyfrau yn gyflym). Dwy nofel "thriller": Yr Alarch Ddu gan Rhiannon Wyn, a Pwll Ynfyd, gan Alun Cob. A Diolch i Neil (Clecs Cilgwri) am son amdanyn nhw ar ei flog - doeddwn i ddim wedi clywed am un ohonyn nhw cyn hynny. A'r dau llyfr wedi ei sgwenu a'i sefydlu yn agos iawn i fy hen filltir sgwar.

Felly, dim mwy sgwenu, mi fyddaf yn cychwyn ar y darllen. Pwll Ynfyd gyntaf, dwi'n meddwl. Felly i'r gwely yn gynnar heno a dwi'n edrych ymlaen

Wednesday 8 February 2012

Y Cwrs Meistroli a Sgwenu

Dwi ddim wedi sôn llawer eto am y cwrs Meistroli dwi’n gwneud (trwy’r pôost). Hyd at hyn dwi wedi cyraedd uned 13 a dwi’n mwynhau’r cwrs yn arw. Mae ‘na wahanol pethau ag elfennau ym mhob uned: darllen, gwrando, gwneud ymaerferion a sgwenu a dwi’n meddwl mai y gwaith sgwenu ydi’r peth anodda, fel arfer, i fi (ond rhaid dweud bod yr ymareferion gramadeg yn anodd hefyd, wiethiau). Mae'r proses o gyfansoddi'r darn ysgrifenedig - a falle edrych ambell beth i fynny yn ymarfer da. Dwi’n hapus pan dwi wedi gorffen y gwaith a wedi ei yrru i fy nhiwtor – ac yn edrych ymlaen at gael yr adborth. Ond fel arfer, dwi’n cael fy siomi pan dwi’n gweld faint o gangymeriadau dwi wedi gwneud.

Yn yr uned diwethaf, roedd rhaid gwneud adolygiad o lyfr. Mae hwn yn rhywbeth sydd yn anodd (dwi’n meddwl) ac yn y diwedd, mi sgwennais un ar llyfr nad oeddwn wedi mwynhau yn fawr iawn (Dim Heddwch) ac un arall am “Y Gwyddel” (rywbeth debyg i be sgwennais yn y blog).

Fel arfer, r’oedd yna lu o gangymeriadau! Penderfynais dadansoddi'r rhai diwethaf, am hwyl, a dyma'r canlyniadau!
(1) Yn y lle cyntaf (fel disgwylir) - traegliadau. Geiriau sydd angen treugliad ond sydd dim wedi cael un. A hefyd, wrth gwrs, rhoi treigliad lle sydd ddim angen!
(2) Wedyn, ail, be dwi'n galw yn "cangymeriad gair" neu patrwm. Fel enghraifft:“dwi’n falch cael“ yn lle cael yn lle “dwi’n falch o gael“; argyhoeddi" yn lle "argymell" (od iawn!) Meddylion yn lle meddyliau. Pethau felna.
(3) Ac yn drydydd lle, camsillafu: elysen yn hytrach na elusen, a.y.y.b.

Y trô yma, dwi wedi edrych ar yr arbrawf yn fanwl, a dwi wedi trio dysgu y patrymau cywir a rhai o'r treugliadau. Ond bydd rhaid gweld a byddaf yn medru cofio rhai ohonyn nhw!Ond wyddoch chi be? Os fasa 'na ddim cangymeriadau o gwbl, bydd ddim byd i ddysgu! Dim pwynt bod ar y cwrs. Felly, be dwi eisiau ydi gwallau da - rhai bydd y Cymru Cymraeg yn gwneud, efallai!

Sunday 5 February 2012

Y Gaeaf - ac edrych ymlaen i'r Gwanwyn


Ar ol diwrnod hyfryd ond oer mi gawson ni dipyn o eira dros nos - y cyntaf o'r gaeaf. Felly mae o wedi bod yn teimlo yn gaeafol iawn. A finnau yn paratoi ar gyfer y gwanwyn wrth prynu tatws i blannu yn yr ardd! Mae gennyn ni feithrinfa yn Buckingham sydd ddim rhy agos (ryw 18 milltir) ond mae nhw'n tyfu eu planhigion ein hun yna (yn hytrach na prynu nhw) ac yn bwysig, mae o'n bosib prynu ychydig bach o datws ar gyfer plannu (pedwar neu bump o'r un fath). Felly mae na gyfle i drio wahannol fathau o datws. Fel arfer mae rhaid prynu fag o datws sy'n pwyso cilo neu ddwy a dwi eisiau trio ychydig o fathau. Dwi wedi prynu Kestrel eto, sydd yn flasus iawn, y tatws "kidney" sydd yn cael ei tyfu yn Jersey, a hefyd y "Pink Fir Apple" sydd yn hynod o flasus a rhai arall na fedrai cofio eu henwau!

A gan fy mod i yno efo fy ffrind Nicola, roedd rhaid prynu'r tatws Nicola, wrth gwrs! Mi fydd y rhain, rwan, yn cael ei osod mewn box yn y golau er mwyn i'r llygaid datblygu a tyfu cyn cael eu phlannu.