Ailddysgu

Friday 31 August 2012

Arbrofion


Ers i fi cael fy nyrchafiad i gogyddes y tŷ (dros tro tra mae ysgwydd fy ngwr yn gwella) dwi wedi bod yn arbrofi gyda sawl ryseit newydd, yn enwedig rhai efo cynwhsion o’r ardd.  Dwi wedi mwynhau salad gyda nionod gwanwyn, afocado a courgettes mewn saws gyda coriander, tshili a garlleg (o’r llyfr Green Seasons  gan Rachel Demouth, sy’n rhedeg ysgol coginio a tŷ bwyta yn Bath).  Heno dwi wedi trio ryseit Groeg o’r enw “Fasolakia“.  Mae ’na sawl ryseit ar y we, i gyd gyda nionod, tomatos, garlleg a ffa  fel hon.   Mi rhois tatws (wedi ei coginio) i fewn a dipyn o caws ffeta arno fo cyn bwyta a r’oedd yn flasus iawn.  Ond does dim llun dda ohonno fo.

Mae’r tomatos yn y tŷ gwydr wedi gwneud yn dda iawn, a dros y penwythnos hir, mi wnes saws gyda tomatos wedi ei rostio - sydd i gyd yn y rhewgell ar gyfer y gaeaf.  Dyma nhw cyn rostio.
Ac un arbrawf olaf ydy gwneud bwyd efo llysiau’r cwlwm (Comfrey).  Mae’r planhigyn hon yn llawn o faetholion, ond er fy mod wedi tyfu llysiau’r cwlwm am flynyddoedd

dwi ddim wedi defnyddion hi llawer.  Felly dwi wedi torri’r dail a rhoi nhw mewn piser i adael nhwn torri i lawr.  A ddyle’r hylilf sy’n dod allan yn dda iawn (ar ol ei wanedu) ar gyfer bob fath o blanhigion.  Gawn ni weld!

Friday 24 August 2012

Haf yn y ddinas a pethau lleol


Dyma llun o’r comin ar ol torri’r gwair.  Mae rhan o’r cae yn cael ei adael: y rhan lle mae’r cudyll coch a’r tylluan wen yn hela  ac eleni mae’r tylluan wedi bod yn nythu ar y comin a dyn ni’n edrych ymlaen at gweld y cenhedlaeth nesa!

Er fy mod i wedi methu blogio cyn gymaint a faswn i’n licio, dwi wedi bod yn brysur yn yr ardd, a mae gennyn ni ddigonedd o bethau i fwyta yn cynwys datws (er eu bod wedi cael haint, rŵan, y “blight”), tomatos,  ffa dringo Ffrengig, a ffa Ffrengig bach, betys, sbigoglys, courgettes, (wrth gwrs), tomatos, ciwcymbr, mafon, eirin, afalau a mefys – er bod y mefys ar ei flwyddyn gyntaf a felly does dim gymaint o’r rheiny.  Felly mae ’na waith wedi bod hefyd yn paratoi pethau fel y ffa i fynd i’r rhewgell ar gyfer y gaeaf, a mae’r mafon yn rhewi yn dda hefyd.  Ond y rhan fwyaf o’r amser dyn ni’n bwyta’r llysiau a’r ffrwythau fel mae nhw.


Un peth arall dyn ni’n gwneud ydy rhoi’r cynnyrch i ffrindiau a.y.y.b a hefyd ffeirio rhai o’r cynnyrch.  Dwi wedi sôn o’r blaen fy mod I’n tyfu digon o giwcymbr i roi rhai i’r siop llysiau lleol – a wedyn dwi’n cael ŵyau, neu bananas, neu beth bynnag.  Ond neithiwr, aethom i dafarn The Bear and Bellsydd ryw 4 filltir I ffwrdd a sy’n coginio bwyd gwych.  Rhywle arall fasa bwyd fel hyn yn ddrud iawn, ond dydy o ddim, a mae nhw’n defnyddio gymaint o gynnyrch lleol  a fedran nhw.  Ond ystafell bach sydd gennyn nhw,  a neithiwr roedd y bwyd yn ardderchog.  Ond ryw bump peth sydd ar y bwydlen, yn cynnwys o leia un peth llysieuwr.  A dyna be ges i neithiwr – Kiev o “chickpeas and Mediterranean vegetables”  a r’oedd o mor dda.  Hefyd, mae nhw’n gofyn i chi ddod a llysiau neu ffrwythau o’r rhandir neu’r ardd os gennych chi ddigonedd – a wedyn mae nhw’n, rhoi disgownt ar y bwyd (neu ar y cwrw).  Mae nhw hefyd yn gwerthu seidr wedi ei gwneud o afalau lleol.

Mae llefydd fel hyn yn ysbrydoliaeth.  Mae’n bwysig cefnogi nhw a hefyd siopau lleol os dyn ni eisiau ein strydoedd mawr (? high streets) i barhau.  Dwi’n trio prynu’n lleol cyn gymaint a sy’n bosib.  A mae gennyn ni siop newydd, rhyw dair filltir I ffwrdd.  


Rhan o Camphillcymuned i bobl efo anablau dysgu, ydy hi,  a mae  hi’n cynnwys caffi, a theatr bach.  Mae’r cymuned yn tyfu llysiau a ffrwythau, ac yn gwneud pethau blasus o’r cynnyrch hefyd, fel surop cyrens duon.  Yn ddiweddar mae nhw wedi agor siop bach, sy’n gwerthu eu cynnyrch a hefyd pethau eraill “eco” a crafftiau.

Ac I orffen dyma llun un o’r teithiau cerdded lleol, ger yr afon, lle tangnefeddus a distaw. 



Dwi’n temlo’n lwcus iawn cael llefydd fel hon yn agos i fi.

Sunday 12 August 2012

Ymweliad i'r Eisteddfod


Yn y diwedd roeddwn yn yr Eisteddfod am amser fyr: cyrhaeddais yn y prynhawn hwyr ar ddydd Llun a gadewais amser cinio dydd Mercher.  ’R on i’n bwridadu aros am ychydig o ddiwrnodau, ond ers i fy ngŵr dorri ei ysgwydd, ryw fis yn ôl, dydi o ddim yn medru gnweud llawer, fel coginio, siopa neu cerdded y ci, felly doeddwn i ddim eisiau bod i ffwrdd rhy hir.  Ac ar ol siwrna hunllefus, cyrrhaeddais pedwar awr yn hwyrach na ddylwn i.  Serch hynny, mwynhais fy hun, er iddi hi fwrw trwy’r dydd, dydd Mawrth.  Arhosais ym Maes D am y ran fwyaf o’r dydd felly, lle roeddwn yn cymryd rhan mewn cyflwyniad ar “Ddarpariaeth i ddysgwyr arlein“, wedi trefnu gan Gareth Thomas.  Roeddwn i’n siarad am Byd y Blogiau - a sut mae (darllen a sgwennu) blogiau  yn gallu cyfrannu at eich ddysgu (yn fy nhyb i).  Dwi erioed wedi gwneud cyflwyniad yn Gymraeg, ond dwi’n meddwl ei fod o’n iawn, a mwynhais y profiad.  Yn y prynhawn, arhosais ym Maes D i weld Seremoni te Siapaneiadd gyda Kiyo Roddis, sydd yn dod o Siapan ac erbyn rŵan mae ei Chymraeg yn ardderchog.

Mi es i lawnsiad ybont hefyd, ar bore Fercher: “Platfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion.“ Mae o’n edrych yn dda iawn a chawsom flas bach ar un o’r adnoddau ar gyfer ddysgwyr: stori fer (a doniol) gan Bethan Gwanas - a oedd yn darllen stori roedd hi wedi sgwenny ar gyfer ddysgwyr.  Gwych.

Does dim llyniau da gen i, ond llyniau ar yr iPhone - ond dyma un o Kyio yn paratoi am y Seremoni te Siapaneiaidd