Wednesday, 23 October 2013

Cerdded ar arfordir Ynys Môn


Cyrhaeddais  adref neithiwr ar ôl amser hyfryd ar yr arfordir, er gwaetha’r tywydd.  Erbyn i ni gyrraedd Malltraeth lle roedden yn aros, roedd y glaw wedi cilio, a’r haul yn dod allan.  Felly aethon ar y llwybr arfordirol trwy rhan o Goedwig Niwbyrch, yn edrych allan am wiwerod coch - ond doedden ni ddim yn llwyddianus.  Erbyn cyrraedd Traeth Llanddwyn, ’roedd y golau yn fendigedig, fel gwelwch yn y llun, a r’oedd o bron yn dywyll erbyn i ni orffen cerdded.



Ond erbyn bore Llun, roedd yn stidio bwrw eto - felly -  dianc i Beaumaris am y bore, ac yn ol i gerdded yn y pnawn, ar ol i’r tywydd gwella dipyn.  Dyma lun o un o’r merlod sydd yn pori ar y twyni: 



  Ddoe, cerddon ymlaen at Moel y Don: mae’r rhan yma o’r taith yn mynd ar hyd yr Afon Menai, gyda golygfeydd hardd o’r tir mawr.  Wrth gwrs, dydy o ddim yn bosib cerdded ar yr arfordir gyfan - mae rhan o'r arfordir mewn dwylo preifat: felly yn y pnawn, aethom i ymweld a Plas Newydd - sydd wedi dwyn y golygfeydd gorau.  Dyma rhan o'r teras a'r Afon Menai yn y cefndir. 

 
Mor hyfryd fase cael golygfa fel'na o'r !!

2 comments:

  1. Falch fod y trip heb ei ganslo oherwydd diffyg trenau! Mae llun y machlud dros Ynys Llanddwyn yn arbennig. Mi ddyliet ei yrru at raglen Galwad Cynnar i'w ystyried ar eu calendr nhw.

    ReplyDelete
  2. Diolch Wilias! Ia 'roedd yn werth mynd yn sicr - er gyda ddoe a heddiw mor haelog trueni nad oedd y tywydd dipyn yn well. Doedden ni ddim yn gwybod bod calendr gan Galwad Cynnar. Rhaid i mi wrando ar y rhaglen eto - rywsut dwi wedi stopio

    ReplyDelete