Ailddysgu

Sunday 22 September 2013

Y cynhaeaf yn parhau - a heneiddio?


Wn i ddim os ydy o yn arwydd o heneiddio (“henaint ni ddaw ei hun...”) ond dwi’n ffeindio y dyddiau yma, bod bob popeth yn cymryd hirach na dwi’n meddwl ddylai fo.  Felly, er i mi wneud restr o bethau i wneud a oedd yn edrych digon resymol ar ddechrau’r penwythnos, llwyddiais i wneud ond ryw hanner ohonyn nhw.

Mae’r ffrwythau wedi bod yn anhygoel eleni, a mae’r rhewgell yn llawn o eirin - rhai gynnar, y Czar, rhai sydd i fod i aeddfedu yn hwyr (Marjorie’s Seedling) ond sydd wedi cael eu casglu a rhewi ar ôl hollti yn y glaw, a’r rhai diweddar, y Fictoria - lle r’oedd y cnwd mor drwm fel bod y coeden wedi hollti.  Dan ni wedi bod yn bwyta’r eirin (a mae nhw’n blasu’n ardderchog), yn gwneud pwdin gan coginio nhw am dipyn bach mewn Cassis (blasus iawn), rhoi nhw i ffrindiau a cydoedion yn y gwaith, a heddiw mi wnes i siytni eirin am y tro cyntaf.  Ryseit Delia Smith - mae o’n coginio rŵan - felly dwi ddim yn gwybod sut flas bydd arni hi eto!

Ddoe mi wnes i pesto - ryseit gan Monty Don y garddwr, mewn hel lyfr "Fforc to Fforc" dyma'r disgrifiad o'r cynhwysion: 

 6 oz of fresh basil leaves, picked and separated from stalks
2 oz pine nuts
3 cloves of garlic
half a teaspoon of salt
3 and a half ox parmesan cheese
1 oz pecorino cheese

(Digon i ddeuddeg)

Dwi ddim yn defnyddio'r pecorino a felly yn rhoi dipyn mwy o'r parmesan.  Mae nhw o gyd yn cael eu gymysgu yn y Magimix ar wahan i'r olew a'r caws sydd yn mynd i mewn wedyn: yr olew gyntaf, a wedyn y caws onibai eich bod am rhewi y pesto.  Os hynny, mae'r caws yn mynd i fewn ar ol i'r pesto dod allan o'r rhewgell a dadmar.  A rŵan mae na twbiau bach yn y rhewgell (bydd rhai ohonyn nhw yn anrhegion ’Dolig, dwi’n meddwl).

Felly ychydig o luniau.  Does dim llun o’r pesto ond dyma rhai o’r basil yn disgwyl.



A dyma llun o’r eirin sydd ar ôl - ar ol defnyddio 3 pwys mewn siytni, rhewi nhw, bwyta nhw a.y.y.b. - heb son am be sydd heb ei gasglu eto!


Wednesday 11 September 2013

Cynhaeafu, coginio a darllen


Wedi dychwelyd o wyliau yn Coniston i ddarganfod bod yr haf wedi troi i Hydref tra roedden ni i ffwrdd. Roedd o ddigon hydrefol yn Coniston hefyd i ddweud y gwir - a digon o law.  Efallai mwy am hynny mewn post arall.

R’on yn gobeithio bod popeth wedi goroesi yn yr ardd a’r tŷ gwydr, gyda fy mab mewn cyfrifoldeb; a chwarae teg, am rhywyn sydd ddim yn arddwr, mi wnaeth yn dda.  Dim byd wedi marw; popeth yn iawn yn y tŷ gwydr - a digonedd o lysiau a ffrwythau i gasglu.  

Mi aethon ni a ddau bocs o afalau efo ni i Coniston - a gadael y rhai wnaethon ni ddim bwyta gyda’n ffrindiau.  Mae’r coeden yn ffrwytho yn dda iawn - “Discovery“ ydy hi - afalau blasus unwaith mae nhw wedi aeddfedu, ond dydy nhw ddim yn cadw am hir iawn.  Felly mae rhaid bwyta nhw, rhoi nhw i ffrindiau neu defnyddio nhw yn y gegin.  Mae ychydig ar ol ar y goeden, ond mae’r rhan mwyaf wedi eu casglu rŵan.

Roedd llawer o’r ffa wedi mynd yn rhy fawr a tew; a rhai o’r courgettes, fel sy’n anochel, wedi datblygu i fod yn fadruddion (erioed wedi dod ar draws y gair yma - ond dyna be ydi “marrow“ yn ol yr ap geiriaduron).  Digon o basil i wneud pesto eto,  Dwy flanhigyn wy mawr yn y tŷ gwydr - a llond bowlen o mafon i fynd i’r rhewgell.  


Felly ar ol y casglu penderfynnais gwneud cyri gyda’r aubergines, gan defnyddio ryseit gan Nigel Slater a oedd wedi cael ei dori allan o'r papur a wedi bod yn y gegin am dipyn.  Mi roedd yn flasus iawn hefyd - er ei fod dim yn edrych rhy dda yn y llun - ac am unwaith mi roedd ’na ddigon coriander yn tyfu yn y tŷ gwydr i ddefnyddio.



A heddiw daeth parsel trwy’r post o siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon.  Dau lyfr gyda cyswllt a bwyd hefyd: Gwreiddiau, hunangofiant Medwyn Williams 
Llyfr trwchus - a dwi’n edrych ymlaen i’w ddarllen.  Yr ail lyfr ydy’r nofel Blasu, gan Manon Steffan Ros.  Mae sawl person wedi awgrymu’r llyfr yma i fi ac yn ol adolygiad Golwg:" Ar wahan i reoli strwythyr yn nofel, mae bwyd yn elfen bwysig ym mhlot Blasu".  Ardderchog - cyfuniad o fwyd a darllen.......