Ailddysgu

Sunday 24 November 2013

Dipyn o hanes lleol: Pentre ac eglwys Willen - cynlluniad Robert Hooke

Mi dynnais y llun o'r cornchwiglod yn y post diwethaf ar gyfyl y llyn yn Willen dim nepell o'r pentref.  Un o’r hen bentrefi sydd yn rhan o Milton Keynes ydy Willen.  Pentre bach gyda  eglwys bach drawiadol a chafodd ei gynllunio gan Robert Hooke.  


Heddiw mae’r pentre  i’w gweld ty ôl i’r eglwys, a mae llyn digon fawr wedi cymryd lle y caeau:  llyn a chafodd ei greu pan ddechreuodd Milton Keynes cael ei adeiladu.  


Gan bod gymaint o dir wyrdd yn cael ei foddi mewn concit wrth adeiladu’r dinas, r’oedd yn bwysig cael llefydd i’r dwr fynd - i osgoi llifogydd.  Dyma oedd pwrpas adeiladu llyn Willen (mae llynau eraill yn MK hefyd gyda’r un bwrpas).

Erbyn heddiw mae’r ardal o gwmpas y llyn yn cynnwys parc  a Phagoda Japaneiadd Tangnefedd.  Hefyd, mae’n llyn yn denu llawer rywogaeth o adar mae dyfrgwn wedi ei gweld yna hefyd.

Aethom yna amser cinio dydd Gwener, gyda’r haul yn disgleirio gyda’r ysbienddrych, a fy nghamera newydd.  Yn anffodus, roedd yn enwedig o oer a gwyntog yn y cyddfan, a dim llawer i'w gweld, felly ynlaen a ni i gerdded o gwmpas y llyn.  Dyma ychydig o'r llyniau mi gymerais.




Tuesday 19 November 2013

Cornchwiglod ac arbrofi gyda'r camera newydd

Roedd bore 'ma yn hyfryd - mae hi wedi troi'n oer, ond roedd yr haul allan a'r lliwiau yn drawiadol.  Ar dyddiau fel heddiw, mae beicio i'r gwaith yn fraint - a dwi'n cyrraedd yn teimlo mor dda.  Dwi'n mynd heibio Llyn "Willen", felly mi wnes i arbrofio dipyn gyda'r camera.

Dwi'n hoff iawn o weld gornchwiglod o gwmpas (ac am enw hyfryd!).  Mae nhw'n atgoffa fi o Gymru, er does dim llawer ohonnyn nhw yn yr ardal yma. Ac i ddweud y gwir dydyn nhw dim yn gwneud yn dda iawn yn gyffredinol, mae'r niferion wedi bod yn gostwng am flynyddoedd.  Beth bynnag, ar ddechrau'r Hydref mae nhw'n symud o'r caeau i ymyl y Llyn, a dyma lluniau ohonyn nhw.


Ac un o lliwiau'r Hydref


Sunday 17 November 2013

Am wahaniaeth yn y cefn gwlad a’r tywydd


Wythnos yn ôl, ar ddydd Sul, r’oedd holl liwiau’r Hydref yn sgleinio yn yr haul, a r’oedd cerdded gyda’r ci yn fuan bore Sul yn bleser pur.  



Ond roeddwn wedi trefnu mynd allan i ginio (dathliad o prosiect gwaith yn gorffen), felly er bod gyrru ar draws wlad i bentre bach yn yml Banbury yn braf, r’on yn ysu bod allan yn y cefn gwlad neu yn yr ardd....

Penwythnos yma, roeddwn wedi trefnu mynd ar dro gyda ffrind dwi ddim yn gweld digon aml.  Felly i ffwrdd a ni, ond o, am bnawn llwyd ddiflas.  Serch hynny, mi gawson daith cerdded hyfryd a mi welais y sgwarnog cyntaf eleni.  Ia, dwi ddim wedi gweld un trwy’r holl fisoedd.  O be dwi’n dallt ( a wedi gweld) mae nhw’n gwneud yn iawn o gwmpas fan hyn.  Roedd y tywydd  r’un fath heddiw: cymylog a llwyd.  Dim y diwrnod gorau i ymarfer ac arbrofi gyda fy nghamera newydd.  Y gobaith ydy bydd y camera yma yn well ar gyfer cymryd lluniau o fywyd gwyllt.  Ond gyda’r golau gwael, yn lle hynny, mi wnes i arbrofi dipyn gyda cymryd lluniau o’r aeron a’r blodau hwyr yn yr ardd.



Saturday 9 November 2013

Mae'r Cymry ym mhobman - hyd yn oed rownd y gornel!

Mi gefais ebost ddoe, o Gymraes o Phwlleli.  R'oedd hi'm chwilio am rywun a oedd yn siarad Cymraeg yn Milton Keynes.  At ol ebostio'n ôl, mi wnaethon ddarganfod bod y dwy ohonom ni yn byw yn yr un dref - yma yn Newport Pagnell - a dim ond hynny: dan ni'n byw ryw ddwy gan lath o'n gilydd!  A dan ni heb gyfarfod yn y bymtheg mlynedd mae hi wedi bod yn byw yma.  Felly wnaethon ni gyfarfod am baned a choffi a sgwrs 'pnawn 'ma - a braf iawn r'oedd cael sgwrs yn y Gymraeg.

Dan ni'n siwr o gyfarfod rwan obryd i'w gilydd!

Thursday 7 November 2013

Garddio gerila


Mi es i ddarlith gan Richard Reynolds ddoe a oedd wedi dod i’r Clwb Garddio yn y gwaith.  Mae Richards wedi bod yn gwneud llawer o arddio gerila yn Llundain dros y blynyddoedd diwethaf .
Mae na lyfr allan rwan - mewn sawl iaith - ond dim Cymraeg (prosiect i rywyn?).  Efallai mi roi o ar fy restr Nadolig.  Ond yn y cyfamser dwi wedi cael fy ysbrydoli i weud dipyn fach mwy o arddio gerila (os gai amser!).  Siaradodd Richard am arddio yn ei filltir sgwar yn Llundain a roedd ganddo lawer o luniau i ddangos ac ysbrydoli ni.  Un peth a wyddon i ddim amdano oedd y pobl sydd wedi bod yn garddio mewn tyllau yn y lôn!  

Ac yn ol yn fy ngardd gerila fi - ty allan i fy waliau....wel, mae’r coed ffrwythau wedi bod yn ardderchog eleni, gyda digonedd o eirin a’r gellyg newydd hefyd wedi ffrwytho.  Hefyd, dydy’r wiwerod lleol ddim wedi darganfod y coed cnau eto, felly dyma’r cnwd eleni.  



Braidd yn fach oherwydd dwi’n meddwl, roeddwn more brysur yn casglu’r ffrwythau, nes i ddim gasglu’r cnau am dipyn, ac o ganlyniad, rodden nhw wedi disgyn o’r coeden a rhai wedi cael eu fwyta.  Ond mae nhw'n ardderchog wedi eu rostio.

Sunday 3 November 2013

Penwythnos brysur


Ddoe mi es i Lundain i ymuno a cwrs undydd Cymraeg yn y Ganolfan Cymry Llundain.  Fel arfer mi gefais amser gwych - a’r diwrnod yn gwibio heibio.  Dwi yn colli - a teimlo’r diffyg siarad Cymraeg yn fama yn Lloeger, ER fy mod i’n cael sgwrs gyda Gareth bron bob wythnos ar y ffôn, a hefyd yn siarad gyda Sue a Jan sydd yn dysgu Cymraeg yn y gwaith.  R’on i hefyd yn disgwyl myn i’r Clwb Darllen yn Llundain nos Lun diwethaf - ond  - gyda’r trenau ddim yn gweithio’n iawn ar ol y storm, doedd o dim yn bosib. Felly mae o’n bwysig cymryd bob gyfle i siarad, dwi’n meddwl, ag i ddysgu dipyn bach mwy, yn ogystal a trio dim colli gormod!  Ar diwedd y ddydd, ymunodd mwy o’r Cymry Llundain a daeth Côr Eifionydd i ganu.  A roedden yn wych. Dwi wedi eu gweld yn canu ar y teledu - ond roedd bod yna yn llawer gwell, gyda ymrywiaeth ardderchog o ganeuon.  Dyma llun ohonnyn nhw (er bod yr iPhone ddim yn cymryd llun da iawn yn y sefyllfa yma).


Felly ar ôl mynd syth i barti pan gyrrhaeddais yn ôl i Milton Keynes, roeddwn wedi blino braidd bore ’ma, ond r’oedd rhaid codi i fynd allan gyda’r ci, ac am fore braf!


Ar ôl cyfnod hir o dywydd fwyn (er glawiog a gwyntog), roedd bore ’ma yn oer ond yn haelog: delfrydol felly i fwrw ymlaen gyda gosod y ffa yn yr ardd.  Mae ffa llydan yn goroesi dros y gaeaf ac yn dod ymlaen yn gynt yn y Gwanwyn - OS - dydy’r llygod dim yn bwyta’r hadau ac OS dydy’r tywydd ddim mor wlyn fel bod yr hadau yn pydru.  Ond yn sicr mae o’n werth gwasgaru’r hadau yma yn yr Hydref, os bosib.  Mae garlleg hefyd yn well os ydy o’n cael ei ddechrau yn yr Hydref. Am un reswm mae garlleg angen cyfnod oer cyn iddo datblygu - felly mae bod yn y pridd dros y gaeaf yn fantais.  Ar ôl prynhawn brysur mae’r ffa a’r garlleg yn eu gwlau newydd.  


Dim ond y nionod a’r pŷs i roi i fewn rŵan.... a wedyn archeb yr hadau sydd angen ar gyfer blwyddyn nesaf.

Labels: