Roedd hi’n stidio bwrw dros nos (Gwener), felly penderfynon cael bore diog gyda brecwast hwyr a mynd am dro bach i’r Tŷ Coch am ginio.
Coeliwch chi ddim, ond dwi ddim wedi bod ym Morthdinllaen ers i grwp go fawr ohonon ni ddathlu diwedd ein arholiad level A, yn ol yn y seithdegau. Mae o’n le gwych, yntyndi? Dyma ni, (wel dim fi, roeddwn ni'n tynnu'r llun) cyn cael cinio.
Ac er bod yr awyr yn lwyd ac yn dywyll, doedd na ddim llawer o law yn y p’nawn, felly ar ol cerdded yn ol i’r car ac yn ol i’r ty lle roedden yn aros, aethom am dro arall:
Erbyn bore Sul, roedd yr haul yn gwenu! Taith y tro yma o Nantgwrtheyrn yn ol tuag at Portdinllaen - dim amser i gerdded rhy bell oherwydd roedd rhaid i mi ddal tren yn y prynhawn, ond mae’r than yma o’r arfordir yn wych. Coffi yn Nantgwrtheyrn
a dipyn o hanes a ddiwylliant o’n gwmpas, cinio (brechndanau) rhywle yn yml Pistyll, lle ddechreuodd y glaw. A dyma edrych yn ol.
Braf, braf, braf cael gweld yr ardal yma eto. Pan roedden yn y tafarn yn Aberdaron, mi ddarllenais ffurflen (amrchata) am bywyd gwyllt yr ardal - ac yn ol y ffurflen, y “pump mawr“ ydy: hebogiaid tramor, llamhidyddion, ysgyfarnogod, brain coed coch a’r morlo llwyd. Welson ni ddim arwydd o’r un o’r rhain dydd Sul. Roeddwn yn gweld morloi yn aml pan oeddwn yn blentyn, ond dim y lleill. Tro nesa efallai.
Awyr Lly^n yn drawiadol yn dy luniau: ti 'di codi awydd arna'i i fynd am beint i'r Ty^ Coch..
ReplyDelete