Rhan o gastanwydden ydi hon. Dwi'm yn siwr am y llun yma i ddweud y gwir.
Dwi'n hoffi'r un yma - un o'r pys yn dechrau blaguro
Ac yn ola - y coeden Amelanchier, yn dechrau blodeuo.
Hefyd dwi wedi bod yn trio gnweud dipyn bach yn yr ardd. Dwi’n meddwl efalla na ddylwn i trio tyfu pŷs melys. Mi wnes i ddechrau ryw dwy fis yn ôl gyda’r hadau - a wnaethon nhw ddechrau flaguro - ond y diwrnod wedyn, roedd y llygod wedi bwyta’r lot. (Digwyddodd hyn yn y tŷ gwydr). Mi es ati eto - yn trio cadw’r llygod i ffwrdd, ond yn amlwg mae nhw’n glyfar. Wedyn trio eto - a’r tro yma, mi ddechreuais y pŷs yn y lloft spar - a llwyddo. Ond pan ddois yn ôl pnawn ddoe, roedden nhwn i gyd ar draws y lle - y tro yma, fy ngŵr wedi cael damwain bach. Felly, heddiw prynais planhigion o’r canolfan garddio.
Mae’r pŷs ar gyfer bwyta yn dod i fynny yn yr ardd (gobeithio bod y llygod yn cadw draw: ond y tŷ gwydr ydy’r problem yn y bôn) a mae tri res o banas wedi mynd i fewn. Gawn i weld be ddigwyddith gyda rhain - llynedd, wnaethon nhwn ddim byd o gwbl.
Yr hefinwydden/Amelanchier 5 diwrnod yn hwyrach yn agor ei blodau yn fan hyn. Damia'r hen lygod 'na!
ReplyDelete