Dwi wedi tynnu ambell lun wrth teithio i’r gwaith. Fel fy mod wedi dweud o’r blaen, mae’r taith (ar beic) yn bleser am y ran fwyaf. Dwi’n mynd heibio ddwy lyn, “Tongwell“ a “Willen“ a mae o’n werth gweld pa adar sydd ar y ddwy. Wedyn, ar hyd yr afon. Felly dwi’n edrych allan i weld beth sydd o’r gwmpas. Yr wythnos yma, sylwais bod mor wenoliaid gyffredin yn eistedd yn yml un llyn, a tynnais ambell llun. Dyma un ohonnyn nhw:
A dyma rhai o'r adar bach sydd o gwmpas:
Elyrch bach a
cywion hwyaden gyda'u mam
Dydy o ddim yn gyntefig, a mae o wedi dod i fod yn broblem, “Himalayan balsam“ yn Saesneg: oes enw Cymraeg? Yn bendant mae nhw'n ffynnu ger yr afon.
Jac y neidiwr -oherwydd natur ffrwydrol yr hadau!
ReplyDeleteTi'n cael hwyl garw ar y lluniau adar Ann. Y daith feics yn swnio'n hwylus iawn. Yma yn Stiniog mae pob taith unai yn dechrau, neu'n gorffen efo allt serth!
Ia, ti'n iawn. Gan fod fy mhenglinniau ddim mor dda y dyddiau yma, dwi ddim yn meddwl y baswn i'n medru beicio yn Stiniog! Ond dwi yn colli brynniau a'r mynyddoedd - mae popeth mor wastad yma.
ReplyDeleteA diolch am y sylwadau am y lluniau. Dwi mor hoff o fywyd gwyllt, ac adar yn enwedig, ond yn bendant dydy o ddim yn hawdd tynny'r lluniau. Gyda'r mor wennol, roeddwn yn lwcus iawn ei bod yn llonydd a dim rhy bell i ffwrdd!