Ailddysgu

Monday 25 May 2015

Gwyfynod Gwych

Mi es i’r gwarchodfa bore  ddoe, a mi wnes i gyfarfod gyda un o’r naturiaethwyr sydd yn arbennigwr mewn gwyfynod – felly es efo fo pan oedd yn edrych i weld be oedd wedi dod i’r trapiau gwyfynod dros nos.  Mi wnes i synnu i weld pa mor hardd roedd rhai ohonyn nhw – fel  y cathfwyn yma:


Dim lliwiau arbennig, ond patrymau diddorol a prydferth.  Dyma un arall hardd – y brychan gwyrdd:


a dyma un arall diddorol – dwi’n meddwl mai gwalchwyfyn y poplys ydy hwn – poplar hawkmoth:


Ac i orffen, un a oedd yn edrych yn union fel darn o bren bach – a dwi wedi anghofio ei enw!


A wedyn yn ol i’r ardd, cyn i’r glaw dechrau……..

Mae mis Mai wedi bod yn hyfryd yn yr ardd; yr unig broblem ydy’r tymheroedd.  Mae o wedi bod yn oer yn ddiweddar.  Serch hynny, mae’r blodau yn edrych yn dda, o hyd, ac y llysiau yn dod ymlaen hefyd rŵan.  Dyma rhai luniau ddiweddar.





Mae’n amser i gael bopeth sydd am tyfu eleni i fewn,  a dwi’n meddwl fy mod i wedi llwyddo gyda’r rhan fwyaf, er bod planhigion fel courgettes  yn dechrau eu bywydau yn y ty gwydr, fel bod nhw’n cael eu gwarchod rhag y malwod, ac yr un peth gyda’r squashes.  A fel gwelir isod, o'r diwedd dwi wedi rhoi'r tomatos yn ei lle yn y tŷ gwydr: dwi wedi bod yn defnyddio y quadgrow, sydd i'w weld yn y llun isod a sydd wedi bod yn ardderchog



Dwi’n edrych ymlaen at y ffa llydan, sydd bron yn barod, a’r rhain bydd y llysiau gyntaf i ni cael bwyta eleni, ar wahan i’r planhigion salad.

Tuesday 19 May 2015

Y gog: o’r diwedd!


Treuliais rhan o fore Sul yn y gwarchodfa lleol.  A dyna lle glywais y gog, o’r diwedd.  Felly am y tro,  mae o leiau un gog o gwmpas yr ardal, a ro’n i, beth bynnag, yn falch iawn i’w glywed o.

Hefyd gwelsom titw’r wern, a dyma llun o’r cuddfan.  


Mae’r rhain yn debyg iawn I ditw’r helyg – a dwi ddim yn medru dweud y gwahaniaeth, ond mae’r arbennigwyr yn y gwarchodfa yn dweud wrthaf bod na ddim ditw’r helyg wedi eu gweld am dipyn, felly dwi bron yn siwr mae titw’r wern ydy o, ond falle mi wnai roi y llun i fewn i iSpot I weld.  A mae'r aderyn yn llawer fwy lliwgar a hardd na mae o'n edrych yn y llun.

Ag o cuddfan arall, sydd yn edrych ar draws un o’r llynnoedd, dyma lluniau o greyr las (efallai rhai ifanc?) ag o gwyach fawr gopog – sydd yn ymddwyn yn ymosodol, yn isel iawn yn y dwr. 



 R’oedd telor y cyrs i’w weld fama hefyd (ond wnes i ddim lwyddo i gael llun).  Mae’r gog yn defnyddio nyth y delor yma yn aml.  Tybed os dyma lle bydd wyau y gog y clywais i yn cael eu  ddodwy?.  Ac i orffen dyma llun hyfryd o’r delor yma gan Dawn – dwi’n dilyn ei flog hi a mae hi’n tynnu lluniau ardderchog

Friday 15 May 2015

Adar lleol a gwarchodfa lleol

Fel dwi wedi sôn o’r blaen, mae fy ngŵr a fi yn aelodau o’r gwarchodfa natur lleol: gwarchodfa wedi cael ei wneud o weddillion y pyllau graean (gravel pits? Oes geiriau gwell?).  Dyma rhai o luniau o’r gwarchodfa: llunoedd a choetiroedd gwlyb ydy’r rhan fwyaf. 




Mae’r gwarchodfa newydd cael ei brynu gan Milton Keynes Parks Trust.  Nos Ferched, roedd y cyfarfod flynyddol, a diddorol iawn roedd clywed am gynlluniau’r Par car ar gyfer y gwarchodfa.  Mae’r gwarchodfa wedi bod o dan adain cyngor MK nes i’r Parc cymryd drosodd – a doedd y cyngor ddim wedi gwneud llawer o reolaeth ar y lle dros y flynyddoedd, oherwydd diffyg arian, ond rŵan bydd pethau yn newid.

A fel roedden yn eistedd yn y cyfarfod yn y brif ystafell – roedd tylluan wen i’w weld, trwy’r ffenestr, yn hela.  Y gyntaf i fi ei weld eleni.  Aderyn hardd iawn, sydd ddim yn gwneud yn dda iawn y dyddiau yma.  Ond, yn y gwarchodfa, cafodd flwyddyn dda iawn llynedd.
Yn fama, dwi’n clywed y gôg fel arfer, ond eleni, dwi ddim wedi ei clywed.  Mae’n debyg roedd un yn canu ym mis Ebrill – ond ers hynny dim.  Felly dwi’n genfigenus pan dwi’n clywed am pawb yn clywed y gog yng Nghymru ar Galwad Cynnar – dim yn fama.  A dydy Gwanwyn ddim r’un fath heb glywed y gôg.

Tuesday 12 May 2015

Yn yr ardd

Dwi wedi bod yn gweithio'n galed yn yr ardd yn ddiweddar - ond serch hynny, mae gymaint o waith ar  ôl i'w gwneud.  Heno, roedd yr arolygion tywydd yn bygwth barrug - felly, rhag ofn, dwi wedi trio gorchuddio un rhes o'r tatws - y tatws newydd, gyda fflîs.  Does dim digon i orchuddio nhw i gyd! 


Mae’r borderi blodau yn edrych yn dda ar y funud, ond y llysiau sydd yn cael y rhan fwyaf o’r sylw: mae planhigion bach spigoglys a betys wedi cael eu trawsplannu; mae ffa wedi mynd i mewn a hadau moron a pannas a popeth wedi cael ei dyfrio: mae’r gwynt yn sychu’r ardd yn gyflym iawn.  Dyma ychydig o luniau o'r blodau:




Mae 'na aelod newydd yn y perllan gerila: morwydden ifanc. 
 Anrheg oedd hon (penblwydd arbennig llynedd).  Ond dwi ddim yn meddwl bod fy ffrind wedi sylwi pa fawr ydy’r coeden yma yn tyfu - ond mi ddylai fod yn bosib cadw hi mewn dipyn o drefn gan ei bod wedi ei phlannu wrth y wal.  Beth bynnag, bydd dipyn o amser cyn i ffrwythau dod!

A ddoe, arbrawf newydd.  Daeth ffrind drosodd i arddio gyda fi - a wythnos nesa, dwi am fynd i wneud yr un peth yn ei gardd hi.  Y syniad ydy gwneud y garddio yn rywbeth mwy gymdasol - a cael llygaid newydd i weld be ydy be.  Clirio gwely’r perlysiau oedd y gorchwyl ddoe: roedd y mintus wedi dianc a cymryd drosodd, a roedd y gwely hefyd yn llawn o glas y gors (? forget me not). Mae hadau y phlanhigion yma yn gwasgaru a mae nhw ym mhob man - ond mae nhw’n hardd ac yn hawdd i dynnu allan.  Dyma'r gwely ar ol i ni orffen - digon o le i gael ychydig o berlysiau newydd.