Diwrnod gwlyb
Penwythnos diwethaf roeddwn yn dweud pa more sych oedd yr ardd - ond wrth gwrs, wedi dweud hynny, daeth digon o law....a dan ni wedi cael cawodydd trwy’r wythnos, ond llai o law, dwi’n credu, na gweddill y wlad.
Dwi wedi bod yn treulio llawer o amswer yn dyfrio yn yr ardd. Dwi’n gwybod bydd y rhai ohonoch chi sydd yn byw yng Nghymru yn chwerthin, ond wir yr, dan ni mewn ardal sych ofnadwy a dim wedi cael llawer o law o gwbl dros yr haf. Yn bendant dim digon. (Ond mae glaw ar y ffordd.) Felly, mae llawer o amser wedi mynd yn sicrhau bod y planhigion, a’r coed yn enwedig, yn llwyddo. Dydw i ddim yn dyfrio’r coed sydd wedi bod yno am rhai flynyddoedd, ond y rhai ifanc, ond eleni, roedd rhai o’r coed hyn yn dioddef hefyd, fel y coeden eirin yma:
Dwi'n falch gweld nifer o lyffantod bach yn ac o gwmpas y pwll yn yr ardd
Labels: Llyffantod bach
Labels: Llyffant