Robin goch yn y tŷ gwydr
Dwn im am bobl eraill, ond mae rhaid i fi fynd trwy'r holl lluniau dwi wedi cymryd a sydd ar y cyfrifiadur, a cael gwared o cyn gymaint a medrai, yn weddol aml. Gyda camera digidol, fel pawb arall, dwi'n tynnu llawer mwy o luniau nag yn yr hen dyddiau, ac er bod rhai yn dda, mae na lawer sydd yn mynd i'r basged bach 'na yn nghornel sgrîn y cyfrifiadur.
Beth bynnag, bore ma, gyda'r amser wedi newid, ond wedi dyhuno yn eitha gynnar fel arfer, penderfynnais gwneud dipyn o sortio ar y lluniau. Mi ddois ar draws un o'r cornel pellach yn y tŷ gwydr, yn ol ym mis Mai. Dyma fo.
Llanast fel arfer, ond wrth edrych yn fwy fanwl, gwelais robin bach yn eistedd ar gefn y cadair sydd yna.
Mi roedd 'na sbel llynedd pryd roedd robin yn dod i'r tŷ gwydr reit mal, ond dwi ddim yn cofio fo'n dwad eleni. Beth bynnag, braf oedd gweld y 'deryn bach yn y llun.