Wythnos yn ôl, r’on i’n hapus iawn i weld y greadur yma. Does dim llawer o ddraenogod o gwmpas fama, a mae’r rhan fwyaf dwi’n gweld wedi marw ar y lôn, ond ’roedd hwn, neu hon, yn fyw a iach - ond falle dipyn yn fach i oroesi’r gaeaf.
Ond heddiw, gweithio gartre bore ’ma, a gwarchod y wyrion p’nawn yma, a dyma lluniqu o fy ŵyr bach, Thomas, un gyda Smot - y fersiwn Gymraeg o ’Spot’ o’r llyfrau i blant ifanc. Wel, dyna be dan ni’n ei alw fo beth bynnag - ac yn y llyfrau mae Spot wedi troi i fewn i Smot.
lluniau hyfryd iawn
ReplyDelete