Ailddysgu

Monday 13 June 2016

Mehefin yn yr ardd ac ar y comin

Rhywsut, rhwng gwaith (yn enwedig gwaith marcio), hyfforddi’r ci, cerdded gyda’r ci, garddio a bywyd bob dydd dwi ddim wedi llwyddo i gyfrannu at y flog yma am dipyn.  Yn yr ardd, mae’r tywydd, a’r bywyd gwyllt wedi bod yn heriol, yn sicr.  Ar ôl wythnos oer, diflas, tywydd poeth sych a wedyn storm fawr, a wedyn tywydd sych a poeth eto.  A fel arfer yr amser yma o’r flwyddyn, rhedeg o gwmpas yn trio symud yr holl blanhigion o’r tŷ gwydr i fewn i’r ardd, gyda dipyn o lwydddiant a dipyn o fethiant.  Yn fama, mae’r gwlithod a’r malwod yn cael tymor arbenning o dda.  Dyma’r courgettes ar ôl un noson yn yr ardd:



Defnyddiais “SlugGone“ sydd wedi eu gnweud o wlan defaid ac yn arbenning o ddrud - ond mi wnaeth o weithio llynedd.  (Gyda llaw, mae cyfle arbennig i ffermwyr gyda defaid i wneud rhywbeth debyg ond yn costio pris mwy derbyniadwy - os nad ydy ’patent’ wedi gwneud hynny’n amhosib).  Ond eleni - yn amlwg, wnaeth o ddim gweithio.  A falle bod y ffaith bod y gwely ar gyfer y courgettes yn agos i rhan o’r ardd sydd wedi mynd braidd yn wyllt gyda llawer o chwyn - lle ddefrydol i falwod a wlithod cuddio - ddim yn helpu.  Yn y tŷ gwydr o’r diwedd mae’r tomatos a’r aubergines a’r pupurau a basil i gyd yn y pridd, er bod yr aubergines a’r pupurau ddim yn edrych rhy dda. Dyma sut oedd rhan o'r tŷ gwydr yn edrych ychydig yn ol a'r planhigion i gyd yn aros i fynd i'w llefydd....



Mae’r dahlias wedi mynd i mewn hefyd, a hyd at hyn dim wedi cael eu bwyta i gyd, ond dwi wedi colli rhai o’r cosmos, yn bendant.  Dim byd i’w gwneud ond rhoi hadau i fewn unwaith eto, neu prynu planhigion o’r ganolfan garddio.

Yn ddiweddar dwi wedi bod allan bron bob dydd yn y bore gyda’r ci, yn aml yn fuan ar y comin, a mae o wedi bod yn hyfryd.  Dwi’n gweld (neu clywed) pedwar neu pump fath o aderyn yn gyson: yr ehedydd, y llwydfron, bras y cyrs, corhedydd y waun a weithiau’r llinos, y nico a’r llinos werdd.  A braf iawn ydy eu gweld nhw.


Dyma bras y cyrs; adar hardd, a dyma corhedydd y waun.



Does dim llun o'r llwydfron ar y comin, ond dyma lun o un with yml Nantgwrtheyn:



Os dwi’n cael cyfle i fynd i lawr i’r cae isaf, wrth yr afon, dwi hefyd yn edrych yn y cae sydd drws nesaf i’r cae yma, lle mae gwenith yn cael eu dyfu a lle mae coed yn tyfu yng nghefn y cae.  Yn fam, weithiau mae llwynog i’w gweld yn y bore yn chwilota o gwmpas y coed, a gwell eto, sgwarndogod yn y cae, ond dwi ddim wedi gweld un eleni.  Ond bore ddoe, roedd carw mwntjac yn pori yng nghefn y cae.  Rhy bell i gael llun da yn anffodus.