Ailddysgu

Tuesday 12 July 2016

Gŵyl Arall 2016

Ddoe, ddes yn ôl o Gaernarfon ar ôl treulio’r penwythnos yn ymuno a Gŵyl Arall eleni.  Cyfle i fyw bywyd Cymraeg trwy’r penwythnos ac i ddysgu a dal i fynny gyda llyfrau, cerddoriaeth, hanes, ffrindiau - a llawer mwy!

Eleni, yn anffodus, doeddwn i ddim yn medru cyrraedd mewn amser i ymuno a sessiwn ar y nos Wener yn dathlu nofel newydd Ifor ap Glyn, Tra Bod Dau  - ond, dwi wedi prynu’r nofel, ac yn brysur yn ei ddarllen.  

Felly beth oedd yr uchafbwyntiau?

Yn bendant mwynhais y sesiwn gyntaf ar fore Sadwrn: darllediad Galwad Cynnar yn dod o Balas Print.  Ond roedd rhaid codi yn gynnar i fod yna erbyn 6.30 (cliw yn y teitl ond dydy?).  Aelodau y tîm:: Elinor Gwynn, Duncan Brown, Twm Elias a Math Williams - gyda Gerallt Pennant.  Os dach chi wedi darllen fy mlog o’r blaen, falle byddach yn gwybod gymaint dwi’n mwynhau’r rhaglen a doedd y rhaglen yma ddim yn siomi chwaith, gyda ffocws ar lyfrau, a chyfle i siarad i rhai o’r tîm ar y diwedd.  

Roedd y llyfrau a oedd yn cael eu ddatrys yn cynnwys “Cuckoo: cheating by nature“: llyfr sydd wedi bod ar fy rhestr am ddipyn, ond dwi ddim ei ddarllen. Eto.  A mi roedd Mari Gwilym (yn y gynulleudfa) yn sôn am llyfr Natur Paul a Nesta (o’i phlentyndod - ond swn i ddim yn meddwl ei fod ar gael rŵan) a hefyd cyfres ’Am Dro“ Angharad Tomos. Ac ar ôl paned, a croissant (neu ddau) yn ol i’r Gwesty am frecwast.

Mwynhais ’Peri Picsells’ gyda Gerallt Pennant yn hwyrach yn y bore hefyd -  ac yn addo i fi fy hyn faswn yn codi’n gynt yn y bore i fynd allan gyda’r camera. 
R’on wedi gweld rhywbeth am nofel gyntaf Alys Coran, ond doeddwn yn gwybod fawr amdani.  Yng Ngerddi’r Empriwm (! gerddi Palas Print) , r’oedd Alys a Siân Northey yn siarad am y nofel ac am gyfiethiad, gan Siân, i’r Gymraeg. 

’Roedd yn amlwg bod y ddwy yn dallt ei gilydd, a roedd y sgwrs wir yn ddiddorol ac yn codi a thrafod pynciau digon cymleth fel sut mae hunaniaeth a llais yr awdur yn newid gyda iaith gwahanol a sut mae rhai pethau yn haws yn y Gymraeg - neu’r Saesneg.  Prynais yr addasiad Cymraeg - ond dwi eisio darllen y fersiwn gwreiddiol hefyd - mae’r llyfr wedi cael dipyn o ganmoliaeth. 
Erbyn y ’pnwawn roedd y bore gynnar wedi cael ei effaith, a r’on isio cysgu.

Ar fore Sul, clywais rhai o’r drafodaeth am gylchgrawn llyfran newydd Cymru ’O’r Pedwar Gwynt’ sydd yn edrych yn wych, ond wedi trefnu i gyfarfod hen ffrind ysgol, roedd rhaid colli hanner.  Ond da iawn cael cyfle i ddal i fynny a sgwrsio am dyddiau ysgol, hen ffrindiau ac y.y.b.  Ac yn ffodus, erbyn amser cinio, doedd y twydd ddim rhy ddrwg: dipyn yn wyntog, ac yn bygwth glaw, ond beth bynnag i ffwrdd a ni - criw bach, ar Fordaith J Glynne Davies ar ngwch Brenhines y Môr, gyda Gwyneth Glyn, Gwilym Bowen Rhys Gwenan Gibbard.    Mae’r digwyddiad yma wedi dod yn boblogaidd, a dwi’n gweld pam.  A mi wnaeth y tywydd bihafio: dyma llun o'r Anglesey a rhan o'r castle ar y ffordd yn ol i'r cei llechi.

A cau’r penwythnos gyda Steve Eaves. Gadawais dipyn bach cyn y diwedd, wedi blino’n llwyr, ond fel arfer wedi cael amswer gwych a gyda ychydig o lyfrau i fynd adref gyda fi.

Saturday 2 July 2016

Rhyd y Gro gan Sian Northey

Mi orffenais darllen Rhyd y Gro, wythnos diwethaf.  Dach chi'n gwybod sut mae hi, pan dach chi wir eisio mynd ymlaen i weld beth sy'n digwydd ac eto dim eisio gorffen y llyfr, oherwydd eich bod yn mwnhau gymaint?  Wel profiad fel yna.  Ac eto, yn anodd esbonio beth yn union sydd mor swynol yn y llyfr yma.

Ar y cefn, mae o'n dweud: "Dyma hanes Efa a Steffan, merch a thad - dieithriaid, i bob pwrpas - sy'n dod i adnabod ei gilydd yn ystod cyfnod dwys ym mywydau'r dda."
Mae'r perthynas rhwng Efa a Steffan, sy'n datblygu, yn diddorol ac yn taro deuddeg am wn i.  Anodd dychmygu sut fase rhwyun yn teimlo wrth cyfarfod tad ar ol blynyddoedd.  Ond roeddwn i'n cael fy nhynnu i fewn i'r stori, ac i'r cymeriadau.  Dan ni wedi dewis darllen y nofel hon ar gyfer ein clwb drallen Llundain, ac yn sicr, fe fyddaf isio ail-ddarllen hi cyn y cyfarfod ym mis Medi.

Mi faswn yn meddwl bod llefydd (tai efallai?) yn bwysig i'r awdures, oherwydd  "Yn y ty hwn" ydy enw ei nofel gyntaf.  Mae 'na ychydig o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i'r llyfr yna gael ei gyhoeddi.  Mwynhais hwnnw yn arw hefyd, a dwi'n edrych ymlaen rwan i dynnu'r llyfr o'r silff a'i ailddarllen.  Gobeithio bydd y nofel nesaf ddim yn cymryd cweit mor hir.......

Rhys y Gro gan Sian Northey