Ailddysgu

Wednesday 26 October 2016

Tŷ allan ac yn y tŷ

Mae  lliwiau’r coed tŷ allan i “Walton Hall”, yr hen dŷ yng nghanol ein campws gwaith yn drawiadol iawn, yr amser yma o’r flwyddyn.  Dwi ddim yn siwr be ydy nhw.   


A mae’r siwrna i’r gwaith ar y beic wedi bod yn bleserus iawn. 





Wythnos yn ôl, r’on i’n hapus iawn i weld y greadur yma.  Does dim llawer o ddraenogod o gwmpas fama, a mae’r rhan fwyaf dwi’n gweld wedi marw ar y lôn, ond ’roedd hwn, neu hon,  yn fyw a iach - ond falle dipyn yn fach i oroesi’r gaeaf.


Ond heddiw, gweithio gartre bore ’ma, a gwarchod y wyrion p’nawn yma, a dyma lluniqu o fy ŵyr bach, Thomas, un gyda Smot - y fersiwn Gymraeg o ’Spot’ o’r llyfrau i blant ifanc.  Wel, dyna be dan ni’n ei alw fo beth bynnag - ac yn y llyfrau mae Spot wedi troi i fewn i Smot. 

 

Monday 10 October 2016

Digwyddiadau ar y comin, yn y tŷ gwydr ac yn y gegin

Mae’r hydref go iawn wedi dod i’r comin, gyda tarth yn y bore, a golau hyfryd, yn gwneud cerdded i ymarfer y ci - a fi, yn bleser. 



 Yn ddiweddar, dwi wedi gweld dau aderyn dwi erioed wedi gweld o’r blaen ar y comin.

Y gyntaf, bore Sadwrn oedd clochdar y cerrig.  Hwn ydy un o fy hoff adar.  Ac er bod llyfr natur Iolo yn dweud ei fod yn hoff o dir comin, dwi erioed wedi gweld un yn yr ardal hon o’r blaen.  Dyma llun o glochdar y cerrig Cymraeg - yn Sir Benfro:



A gwryw oedd yr un ar y comin hefyd; aderyn hardd iawn, ond ches i ddim gyfle i edrych arno fo yn fanwl; roedd o wedi hedfan i ffwrdd mewn chwinciad!  

Bore Sul, bore braf a heulog, edrychais i weld be oedd yn y ddraenen wen, sydd yn llawn o aeron coch, a bob fath o aderyn yn gwledda ar yr aeron.  Un o’r rheini oedd pinc y mynydd - brambling. Ymwelydd gaeaf ydy hwn, a dwi’n gwybod ei fod yn cael ei weld yn yr ardal - yn enwedig yn y warchodfa natur, ond dwi ddim wedi gweld un o’r blaen.  

Mae’r comin yn gartref i sawl rywogaeth, a mae’r rhestr wedi tyfu rwan.  Ac yn y cae gwaelod - y ddôl gwaelod, wrth yr afon, mae pethau yn newid hefyd.  Eleni, gyda’r gwair yn hir, ’roedd y ddôl yn llawn o bryfed a ieir bach yr ha, a’r adar yn dod i wledda ar y pryfed, yn enwedig y wennol ddu, tra oedd adar fel bras y cyrs yn nythu.  A rwan mae gynlluniau ar y gweill i greu ddôl go iawn, ’hen ffashiwn’. 



Mae dôlydd hen wedi bod yn diflannu o’r wlad, ac oherwydd hynny dan ni wedi colli’r blodau sydd yn tyfu yna, a’r bywyd gwyllt sydd yn dilyn y blodau.

Heddiw roedd y gwaith yn dechrau, felly gawn ni weld sut bydd y ddôl yn datblygu dros y blynnoedd.

Yn ôl yn yr ardd, mae’r aubergines yn ffynnu yn y tŷ gwydr.  


Rhai bach, eleni, yn y gobaith ei fod am aeddfedu dipyn yn gynharach na’r arfer.  Nos Sadwrn, felly, cyri aubergine.  Dwi’n hoff iawn o ryseit Nigel Slater, sydd yn eitha syml ac yn hyfryd o flasus. 

 

Ein ciwymbers o’r tŷ gwydr yn y raita, chutney a reis, a papadom, a dyna ni.

Sunday 2 October 2016

Pethau diweddar


Fel arfer, mae pethau wedi bod yn brysur, a rhysut dwi ddim wedi llwyddo i bostio i’r blog.  Felly be sydd wedi bod yn digwydd?  Penwythnos diwethaf, aethom i arddangosfa a oedd wedi cael ei osod yn yr hen eglwys yn Lathbury - pentref rwy filltir i ffwrdd.  Mae’r hen eglwys yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif, a mae lluniau a cherfiadau ar y muriau
.  



Arddangosfa gan ddau artist lleol sydd yn byw yn y dref yn fama: Kate Wyatt - sydd yn peintio bywyd gwyllt lleol , ac yn yn enwedig sgwarnogod, a hefyd rhai o waith Tony Barker, sydd hefyd yn peintio adar a bywyd gwyllt.  Dan ni wedi prynu un o’i phrintiau hi, i fynd ar wal y lloft ffrynt.   Mae’r ddau yn treulio llawer o amser ym mhob tywydd yn fraslunio be maent yn gwylio, a mae o’n syndod gymaint o adar ac anifeiliaid sydd i’w gweld yn yr ardal.

Ddoe, ymweliad i arddangosfa gwbl wahanol. “Records and Rebels 1960- 70- ”  yn yr amgueddfa Victoria & Albert, yn Llundain.  Rhan o ddathlu penbwlydd fy ngŵr a fy ffrind.  Arddangosfa gwych; hel atgofio ond hefyd ' roedd yn ymweliad emosiynol.  Lle aeth yr holl cythro a’r angerdd? Yn ôl yr arddangosfa, ar ddiwedd y pumdegau/dechrau’r chwechdegau - dwi ddim yn cofio yn union, roedd hanner poblogaeth America yn dauddeg bump neu iau!  A dyma ni heddiw, ac efallai bod yr Americanwyr am gael Trump fel llywydd!

Ac yn ôl i iddiwrnod heulog, hyfryd, yn fama, heddiw.  Felly amser i fynd i ddyfrio’r planhigyn yn y tŷ gwydr.  O’r diwedd mae’r pupurau yn dechrau [ond yn dechrau, cofio], aeddfedu.  


Does dim gymaint a hynny, ar ol i’r malwod wleddu ar y blanhigion yn gynharach yn y gwanwyn, ond edrych ymlaen at flasu be sydd ganddo ni, beth bynnag.