Ailddysgu

Monday 30 January 2017

Cynlluniau


O’r diwedd mae’r dyddiau yn ymestyn dipyn bach, a mae’r tymor garddio yn nesau.  R’on i a fy ngŵr yn Ludlow dros y benwythnos yn ymweld a ffrindiau - dyma’r olygfa o lle roedden yn aros.  


Gwych.  Ond roedd y tywydd yn ddigon wlyb, yn enwedig ar y dydd Sul, pan roedden yn teithio’n ôl.  Felly cawsom hoe bach yn y ganolfan garddio yn Buckingham.  Fel bron bob ganolfan arddio arall, mae’r ganolfan yma wedi dechrau gwerthu bob fath o bethau gyda dim gysylltiad a garddio o gwbl.  Serch hynny, maent yn tyfu eu planhigion ein hunan, ac yn gwerthu tatws ar gyfer plannu yn rhydd.  Felly es ati i brynu ychydig o datws i blannu eleni, yn cynnwys tatws Ratte.  



Dwi’n cytuno gyda’r dyn sydd wedi sgwennu’r blog yma: mae ’na blas ardderchog arnynt.

Ond syn dechrau eto gyda'r ardd - a mae hi braidd yn gynnar ar hyn o bryd, dwi am trio dacluso rhan o'r ty, ac yn holl bwysig, cael gwared o bethau dan ni ddim wir angen mwyaf.  Dwi'n ofni bod orchwyl hir o fy mlaen i.............. 

Friday 27 January 2017

Diwrnod hyfryd yng Nghaerdydd, dydd Mawrth.  Roedd lawnsiad o un o’n cyrsiau ni: ’Darganfod Cymru a'r Gymraegyn y senedd.  Cyn hynny, r’oedd dipyn o amser i grwydro o gwmpas rhan o’r ddinas gyda fy ffrind Gareth, a chafodd ei fagu yn yr ardal.  Felly, dechrau yn yr hen lyfrgell - ond yn anffodus dydy’r caffi ddim ar ägor rean  felly crwydro trwy’r dinas a’r farchnad; ac ymysg lower o bethau - ymweliad fur i’r amgueddfa genedleuthol ac i’r Parc a’r Deml Heddwch - ac i’r Ganolfan y Mileniwm i orffen.







Dwi ddim wedi treulio llawer o amser yng Nghaerdydd o’r blaen ac yn sicr mi fyddwn yn hapus mynd yn ol gyda llawer fwy o amser i fwynhau’r dinas.

Sunday 15 January 2017

Yn y warchodfa

Diwrnod digon diflas eto heddiw, o ran y tywydd, ond amser digon diddorol yn ein gwarchodfa natur lleol: ond ryw ddwy filltir o'r tŷ.  Mae'r gwarchodfa yn cynnal 'Sul Agored' bob fis, lle mae bob guddfan ar agor i ymwelwyr, a hefyd yr adeilad.  Yn fana, mae llyfrau ail-law ar werth, te a choffi a cacennau cartref, i gyd i godi bres tuag at y warchodfa.

Heddiw, roedd Andy yn tywys taith cerdded byr o gwmpas y warchodfa.  Fo ydy'r 'county recorder' (dwn i'm be ydy hynny yn Gymraeg!) a felly mae o'n cyfri ac yn cofnodi'r adar, yn enwedig y hwyiaid.  Syniad da i fynd a bobl gyda diddordeb yn yr adar gyda fo.  Gwelsom ni ddim llawer heddiw, ond roedd yn dda gweld dringwr bach, a hefyd llwynog, yn sefyll yn gwylio ni - ond dim digon o amser i godi'r camera cyn iddo fo fynd. Dyna alun o un o'r cuddfannau:


Wedyn yn ol i fewn am banad a gweld be arall oedd o gwmpas.  Mae na lofft i adeilad y warchodfa lle mae'n bosib cael golygfa gwych, a telesgopau ar gael hefyd.  



A wedyn i'r tafarn gerllaw am ginio gyda fy ngwr a mab, ac i gynhesu wrth yml y tan.


Wrth mynd a fy mab gartref, es i faes parcio IKEA.  Na, dim i siopa yn Ikea, ond oherwydd bod sawl gynffon sidan wedi ei gweld yna ( a roedd hi ar y ffordd), ond na, methais gweld un, a buan r'on i wedi laru gyda maes parcio orlawn a bwrlwm y lle, felly yn ol adre.