Tuesday, 3 March 2009

Cerdded ar Dydd Gwyl Dewi yng Nghonwy






Roedd dydd Sul yn braf iawn - a felly roedd yn dda i weld bod ni wedi gwneud y penderfyniad iawn i fynd am dro ar dydd Sul yn hytrach na dydd Sadwrn. Mae na daith cerdded ardderchog o Gonwy sydd yn mynd i fynny Mynydd y dre (dwi'n meddwl na dyna be ydi o yn Gymraeg - Conwy Mountain yn Saesneg). Dwi newydd chwilio ar y we a darganfu manylion o wythnos gerdded (o 2008 - ond efallai bydda un arall eleni?) Rhag ofn i fi golli y rhif dyma'r rhif ( o flwyddyn dwythaf) i gael copi o raglen Wythnos Gerdded (01492)
575290/575200 a dyma'r e-bost: cg.cs@conwy.gov.uk. (Dwi wedi darganfor y rhaglen a mae'r teithiau cerdded yn edrych yn dda iawn - efallai yn y dyfodol............) Ond yn ol i ddydd Sul. Mae'r llwybr yn dilyn Llwybr y Gogledd am rhan o'r taith - i fynnu Mynydd Y dre - ac wedyn yn croesi pen Bwlch Sychnant - ar ol hynnu mae o'n mynd twy gwarachodfa natur ac yn ol dros caeau i Gonwy. Mae'r lluniau un dangos yr olygfa ar ol cerdded dipyn o ffordd i fynny Mynydd y Dre a ffrindiau newydd cyfarddais pan oeddwn yn dod yn ol at Gonwy. Mae yna fwy o fanylion am yr adar ar anifeiliaid y gwelson i yng Nghonwy ar fy mblog arall (Ann's Newport Nature blog http://newportnature.blogspot.com)


English summary

Sunday was a beautiful day so we were pleased to have saved the Conwy Mountain walk for then. This is a lovely six mile walk (and see http://newportnature.blogspot.com/ ). Just now in checking the welsh name for Conwy Mountain I found details of a week's walking festival on the web with some wonderful walks. This was for 2008 - but maybe there will be another - and maybe in the future.........
Anyway back to the walk - it crosses the Sychnant pass then goes through a nature reserve and back to Conwy. The photos show (1) new friends made on the way and (2) the view back to Conwy as you walk up towards Conwy mountain.

No comments:

Post a Comment