Yn aml dwi’n teimlo yn gaeth i’r ardd yr adeg yma o’r flwyddyn. Os dwi’n troi fy nghefn arno fo am dipyn bach mae pethau wedi mynd yn wyllt. Mi ges i ddipyn o hoe o ddyfrio am ryw wythnos yn unig, pan gawson i dipyn o law: dim digon i newid y sychder llawer, ond digon i ddim rhaid dyfrio bob ail ddydd, bron, ar wahan i’r coed ffrwythau. Unwaith mae nhw wedi tyfu rhywfaint, ar ôl ryw dair flwyddyn, does dim angen dyfrio rhy amal. I ddweud y gwir, mae’n well gwneud llai amal a gwneud yn ddrylwyr a wedyn mae’r gwreiddiau yn mynd i lawr i chwylio am y dŵr. Ond mewn amser sych sych fel hyn, mae angen rhywfaint o ddyfrio ar y coed hefyd.
Ond pan dach chi’n gofyn pam dach chi’n treulio gymaint o amser yn yr ardd, mae rhywbeth yn blodeuo, neu yn ffrwytho a mae o’n deimlo’n werth o. Treuliais bore ddoe yn gwneud saws tomato hefo’r tomatos a hefyd yn gwneud siytni hefo’r afalau. Dyma’r tomatos yn y basged a wedyn yn barod i fynd i’r popty hefo dipyn o foron (o’r ardd), nionod, garlleg, perlysiau, seleri ac olew. Cawsom rhan o’r saws neithiwr a mae’r gweddill yn y rhewgell. Blasus!
No comments:
Post a Comment