A dyma'r drudwy yn yr ardd. Adar di-nôd, digon gyffredin, efalla? Ond aderyn gyda lle a chysylltiad gyda llenyddiaeth Cymraeg. A mae'n debyg bod y nifer yn gostwng - fel llawer iawn o adar eraill. Felly dwi wedi rhoi croeso i'r drudwy yn yr ardd. Ond mam bach - mae nhw'n dŵad mewn haid bach; yn cwffio ac yn farus. Mae nhw'n gollwng mwy o fwyd na mae nhw'n bwyta, hefyd. Ond dyna ni, mae rhaid cario ymlaen rŵan wedi dechrau.
A dyn ni'n falch iawn o weld eurbinc (goldfinch) yn bwydo hefyd; mae nhw mor hardd pan dach chi'n cael cyfle i'w weld nhw yn agos.
No comments:
Post a Comment