Dwi ddim wedi coginio gyda cyrens coch o'r blaen, na bwyta llawer ohonnyn nhw, ond mae nhw'n dda hefyd i gymysglu gyda mafon a rhoi ar ben eich miwsli yn y bore gyda yogwrt.
Mae'r cawodydd yn ol, ond llwyddiais i feicio i caffi bach gerllaw, ddoe, am ginio gyda ffrind: rhan o gymuned "Camphill" sydd mewn rhai ffyrddiau yn debyg i Antur Waunfawr. Lle i bobl gyda anablau dysgu i fyw a gweithio. Mae caffi da wedi bod yna eisoes, yn coginio bwyd siml ond blasus, yn defnyddio eu cynyrch sydd yn cael ei tyfu gan y gymuned mewn dyll organic. Yn ddiweddar, mae siop bach wedi agor, yn gwerthu eu bara, ffrwythau a llysiau a dipyn o bethau eraill "gwyrdd" fel products “Ecover“. (Mwy am y siôp a’r cymuned mewn post arall efallai).
A gyda'r nos, a'r cawodydd wedi cilio, mi es am dro ar y comin gyda'r ci a chael y pleser o weld tylluan wen yn hela. Mae rhain braidd yn brin rwan, ond dyn ni'n lwcus bod 'na rhai yn nythu ar y comin weithiau a hefyd yn y gwarchodfa Natur sydd ddim yn bell i ffwrdd. Mae nhw angen gwair sydd ddim wedi cael ei phori. Aderyn hardd iawn. (Mae na fidio bach dda o’r dylluan yma yng Nghymru, gyda Iolo Williams yma).
Ac os dach chi’n hoffi lluniau bywyd gwyllt, mae lluniau y mis ar y blog Ar Asgwrn y Graig yn werth gwylio, a’r blog yn ddiddorol hefyd, os gennych chi ddiddordeb mewn garddio.....
No comments:
Post a Comment