Mae'r ardd wedi ennill llawer gwobr, ac yn werth gweld - ond yn anodd dangos mewn llyniau! Mae ganddi hi olygfa ardderchog hefyd dros y dyffryn.
Lle arall efo olygfa hyfryd ydw'r tafarn cymunedol cyntaf yn swydd Efrog - Y George and Dragon sydd rwy dri filltir tua allan i Richmond mewn pentre o'r enw Hudswell. Roedd y tafarn wedi cau am dipyn tri flynedd yn ol, ond llwyddodd y pentre i godi digon o arian i brynu’r tafarn sydd hefyd yn cynnwys llyfrgell bach, siop a rhandiroedd tu ol i’r tafarn. Felly enghraifft ardderchog o ffordd i gadw tafarn yn mynd, yn llwyddianus ac yn rhan canolog o’r cymuned, yn enwedig yn y dyddiau yma, pan mae llawer o dafarnau yn cae ac yn gadael cymuned heb le i gyfarfod a chymdeithasu. Mi oedd y tafarn yn hapus i’r ci fynd yna, a r’oedd y bwyd a’r cwrw yn dda iawn!
No comments:
Post a Comment