A dyma llun arall, y tro yma yn ymyl (ac yn) yr afon.
A mi lwyddais i gael hanner awr yn yr ardd. Digon o amser i gasglu’r panas olaf y tymer,) a tri moron bach o'r ty gwydr) ag i ddechrau cynllunio be sydd am fynd lle.
Mae gwahanol gwlau uchel? (raised beds)? yn yr ardd llysiau a mae rhaid newid lle mae’r llysiau gwahannol yn mynd bob blwyddyn. Mae’r cynllun wedi ei gwneud, rŵan, a’r gwaith nesaf ydi mynd trwy’r bocs hadau i weld be sy gen i, a be sydd angen prynu. Dwi’n hwyr gwneyd hyn eleni. Mae o’n dasg bleserus i’w gwneud pan mae’r tywydd yn wael, a’r hadau i gyd yn addewidion o bethau dda i ddod!
No comments:
Post a Comment