Saturday, 27 July 2013

Canlyniadau’r Arholiad Uwch



Daeth llythyr wythnos diwethaf i ddweud fy mod i wedi llwyddo yn yr arholiad uwch a wedi cael gradd A!  R’on i’n hapus iawn gyda’r canlyniadau yma.  Yn ôl yn 1970, mi wnes i sefyll fy “O” lefel Gymraeg – ond ‘roedd rhaid i fi wneud yr arholiad ar gyfer plant iaith gyntaf Cymraeg – oherwydd dyna’r dosbarth roeddwn i ynddo yn yr ysgol.  Efallai fasai hynny yn iawn, taswn i wedi dysgu y gramadeg yn y dosbarth achos doedd Cymraeg ddim yn iaith gyntaf i fi – a doedd y treigladau a pethau eraill gramadegol dim yn dod yn naturiol.  Ond doedd dim gwersi am y rhain, a  methu wnes i, ar ol colli unrhyw diddordeb yn yr iaith, gan fod fy ngwaith yn dod yn ôl gyda marciau coch ar draws o i gyd.  Felly dwi’n teimlo fy mod i wedi llwyddo yn y diwedd – ychydig o flynyddoedd wedyn.  Dwi’n gobeithio mynd i’r Eisteddfod i dderbyn y tystysgrif er fy mod i ddim yn medru aros yn hir.

4 comments:

  1. Llongyfarchiadau - a dymuniadau gorau at y dyfodol!

    ReplyDelete
  2. Diolch! Edrych ymlaen am fynd i'r Eisteddfod rwan

    ReplyDelete
  3. Go dda Ann. Ymlaen at y radd rwan?

    ReplyDelete
  4. Helo Wilas
    Jyst wedi gweld dy sylw (dwi ddim wedi llwyddo i gadw i fynny yn ddiweddar) Mi fasa hynny'n wych - ond dim yn bosib ar y funud! Bydd o'n her i gadw'r Cymraeg i fynny ( agwella hi, gobeithio) o Loegr - ond dwi am trio!

    ReplyDelete