felly ar ôl mynd a’r ci am dro dyna ddechrau ar y mafon. Dyma sut oedden nhw cyn dechrau:
A dyma sut oedden nhw ar ol tocio am dipyn o amser, a hefyd tynnu rhai allan, oherwydd mae ’na ffrwythau eraill yn y gwely hefyd, fel gwsberen, cyrans du a chyrans coch - a r’oedd popeth ar draws ei gilydd, rywsut.
Dwi ddim wedi gwneud lawer o arddio o gwbl eto eleni, ond yn y tŷ gwydr mi wnes i wasgaru hadau letys penwythnos diwethaf, ond dwi braidd yn sicr bod y llygod wedi bod atynt - felly heddiw, mae’r hadau yn mynd i’r lofft a mi wnai chwilio am y trap llygod.
No comments:
Post a Comment