Beth bynnag, doedd y glaw ddim yn spoilio’r taith hanesyddol gyda Emrys Llewelyn Jones o gwmpas Caernarfon - yn cynnwys cerdded ar y waliau. Dwi ddim wedi llwyddo i fynd ar un o deithiau Emrys - “Tyrd am Dro Co’“ o’r blaen ond mae o’n werth mynd, yn sicr. Ychydig cyn y taith, roedd hi’n stidio bwrw, ond erbyn i ni gychwyn o gwmpas yr hen dre ganoloesol (cyn hynny byddai’r “dre“ wedi bod o gwmpas y Caer Rufeinig, siwr o fod). Mae’r hanes, a’r hen adeiladau yn ddiddorol a dim ond gobeithio bydd modd i wneud dipyn o’r gwaith trwsio sydd angen ar y rhai sydd wedi dirywio.
Y noson gynt, roeddwn yn
Llofft Gwesty’r Castell (bron gyferbyn i’r lle roedd ein siop teuluol, erstalwm
, ond stori arall ydy honna), yn mwynhau noson “Pethe Bychain“ gyda grwp
gwerin - Triawd - a’r beirdd Ifor ap Glyn, Karen Owen, Arwel Pod
Roberts a Nia Môn.
R’oedd
yn noson wych. R’oedd yr holl digywddiadau yn ofnadwy o dda, i ddweud y
gwir – (dwi ddim wedi sôn am y Trevor Dines yn siarad a flodau
a “Plantlife“, a Mike Parker yn sôn am agweddau tuag at y Gymraeg, ac am
luniau Pierino Algieri). Rhaglen ardderchog - a mi es adra gyda
lwyth o lyfrau, fel arfer.
No comments:
Post a Comment