Mae rhai o fy ymarferion gyda’r camera yn cymryd lle o’r bont ty allan i’r dre, o ble, os ydw i’n ffodus, dwi’n medru gweld creÿr glas yn pysgota, a hefyd y creÿr fach wen. Mae gan y greÿr las lle annwyl yn fy nghalon. O fy nhŷ, yng Nghaernarfon, ers stalwm, roedd o’n bosib, reit aml, gweld creÿr las yn pysgota. Ond ymwelwyr mwy ddiweddar ydy’r creÿr bach . Mi roedd o yn byw yn Ffrainc ond dim fama. Ond yn raddol mi ddaeth yn nes, a rŵan mae nhw’n nythu yma. Felly dyma llun o’r creÿr las a welais bore yma.
No comments:
Post a Comment