Mi ges i amser wych yn yr Wyl Arall eleni. Os dach chi ddim yn gyfarwydd a’r Gwyl Arall, digwyddiad blynyddol yng Nghaernarfon - gwelir yma. Eirian o “Palas Prints“ ydy yn o’r grwp bach sydd yn ei drefnu bob blwyddyn.
Roedd gymaint i weld, glywed a gwneud. Dechreuais i gyda darlith John Davies am y perthynas rhwng y Y Cymry a’r Gwyddyl, yn gnolbwyntio ar diwedd y deunasfed ganrif a dechrau’r ganrif diwethaf, a fel arfer gyda gwaith John Davies, diddorol iawn. Siaradodd am patrwm y wlad (pwy biau’r tir a.y.y.b.); crefydd, iaith a diwydiant: roedd rhai o’r elfenau yma i’w gweld yn debyg rhwn Iwerddon a Chymru, ond nid felly wrth edrych eto ar y sefyllfa. Tybed os oes rhyebeth wedi ei sgwennu ganddo?
Mwynhais hefyd gwrando ar Bethan Wyn Jones yn trafod planhigion meddyginaethol. Roedden ni mewn pabell yn yr ardd (palas Print) a ’r glaw yn pistillio - ond dim ots.
Ar ol gwrando ar Ifor ap Glyn yn holi’r Awdures Kate Crockett am ei llyfr diweddaraf am DylanThomas a’i berthynas efo’r iaith Gymraeg, prynais y llyfr, a mae o, gyda llawer eraill, yn eistedd yn barod i fi dechrau arnynt. Ond wnes i ddim lwyddo i fynd ’r digwyddiadau eraill am DT.
Mi faswn wedi hoffii gwrando ar fwy o gerddoriaeth. Roedd bandiau yn chwarae ty allan i’r Anglesey trwy y Gwyl. Gwrandawais ar Gwenno Saunders (a oedd dim ty allan i’r Anglesey ond mewn tafarn) am dipyn a mi wnes i aros dros y nos Sul i glywed Steve Eaves - gwych.
Swn i wedi hoffi mynd am daith cerdded gyda Emrys Llewelyn gyda’r enw LLongau llongwrs a hwrs! Wel, mae dipyn o hanes i’r dre. Ac doeddwn i ddim yn medry mynd i glywed canu gwrin Gwyneth Glyn ac eraill ar cwch (senio’n hyfryd) oherwydd cyfarfais gyda hen ffrind ysgol - a oedd hynny hefyd yn hyfryd.
Roedd fy ffrind Gareth yn lawnsio ei nofel, a Welsh Dawn a mi roedd y lawnsiad yn boblogiadd a fywiog, gyda Dafydd Wigley yn gofyn cwestiynnau i Gareth, a Gareth a Mari gwilym yn darllen rhan o’r llyfr. Stori am genhedlaeth ifanc a ddaeth a gobaith newydd i’r iaith Gymraegyn ystod y 1950au. A stori wedi ei leoli yn Nyffryn Nantlle, lle’r oedd (y fachgen) Gareth yn byw am ychydig o flynyddoedd yn ystod y pumdegau.
No comments:
Post a Comment