Ond heddiw, ar ol cinio, mi es allan dros y comin gyda'r ci. Roedd y prynhawn yn hyfryd, gyda golau arbennig - a'r lliwiau y coed, a'r caeau yn edrych mor hardd. Doedd neb i'w gweld, ond y ci a fi, a distawrwydd ym mhob man, er, clywais tylluan yn hwtio - rhywbeth annisgwyl yn y prynhawn. Dyma ychydig o luniau, yn gyntaf, o'r afon:
A dyma'r dref (Newport Pagnell) yn edrych yn ol o'r llwybr ger yr afon:
Roedd y tywydd yn hyfryd dydd Llun diwethaf hefyd,pan roedden yn Ludlow eto. A dyma llun o "Clee Hill" gyda haen fach o eira ty hwnt i'r dref:
Tro nesaf- llyfrau!
No comments:
Post a Comment