Mi es i Gaernarfon y penwythno diwethaf ac un peth wnes i oedd mynd allan gyda Gareth i chwilio am a gwylio adar o gwmpas Caernarfon. Un o'r adar gyntaf gwelson ni oedd y Corhwyad Americanaidd (os dyma ydy'r enw gywir - American Teal yn Saesneg). Rŵan, mae'r corhwyad gyffredin yn aderyn digon hardd fel gwelwch isod (ond mae'r pen dipyn ar goll yn y gwymen):
A does dim llawer o wahaniaeth rhwng yr aderyn yma a'r un o America heblaw (a na dydy o ddim yn fwy) bod y streipen wen ar yr adenydd yn mynd i lawr yr adenydd fel y gwelwch yn y llun nesaf.
Mi chefais hwyl ar y dydd Sadwrn hefyd yng Ngŵyl Ddewi Arall yng Nghaernarfon, ond post arall ydy hynny.
Mae mwy am y taith i weld adar yn fy mlog arall, Saesneg, am byd natur, sydd i'w gael yn fama. Mae'r blaenoriaeth ar y flog yma i fi rŵan, felly yn anffodus dydy'r blog yna ddim yn cael llawer o sylw.
Mae digon o adar i'w gael o'n gwmpas yn fama hefyd, ond rhai gwahanol, yn aml. Bore 'ma mi welais y llinos werdd yma pan r'on yn cerdded ar y comin.
Doedd dim i'w gweld pan aethon ni allan dydd Gwener diwethaf, a dwi'n dallt eu bod nhw yn fwy brin nac oeddent o gwmpas Caernarfon. Er i fi weld hwn bore ma, ac yn yr ardd weithiau, dydy nhw ddim yn boblogaidd iawn yn fama chwaith.
A fory dwi yn y byd Gymraeg eto, achos dwi'n mynd i'r cwrs undydd yn Llundain ac yn edrych ymlaen. Mwy yn y man.
No comments:
Post a Comment