Treuliais rhan o fore Sul yn y gwarchodfa lleol. A dyna lle glywais y gog, o’r diwedd. Felly am y tro, mae o leiau un gog o gwmpas yr ardal, a ro’n i, beth bynnag, yn falch iawn i’w glywed o.
Hefyd gwelsom titw’r wern, a dyma llun o’r cuddfan.
Ag o cuddfan arall, sydd yn edrych ar draws un o’r llynnoedd, dyma lluniau o greyr las (efallai rhai ifanc?) ag o gwyach fawr gopog – sydd yn ymddwyn yn ymosodol, yn isel iawn yn y dwr.
R’oedd telor y cyrs i’w weld fama hefyd (ond wnes i ddim lwyddo i gael llun). Mae’r gog yn defnyddio nyth y delor yma yn aml. Tybed os dyma lle bydd wyau y gog y clywais i yn cael eu ddodwy?. Ac i orffen dyma llun hyfryd o’r delor yma gan Dawn – dwi’n dilyn ei flog hi a mae hi’n tynnu lluniau ardderchog
No comments:
Post a Comment