Felly mwynhais gerddi fel y rhai islaw:
Ac wrth cerdded yn ol, aethom heibio’r gardd llysiau Hampton Court - dwi wastad yn hoff gweld hen gerddi yn llawn o lysiau a ffrwythau.
Ac yn ol yn ein gardd ni, mae’r nionod wedi aeddfedu, dwi’n meddwl, ac yn barod i ddod allan. Dyma un:
A dwi wedi dechrau ar y cennin. Dyma’r planhigion sydd wedi tyfu o’r hadau:
A dyma rhai ohonyn nhw dwi wedi symud i’w gwely newydd.
Llynedd cawsom fawr ddim o gennin, oherwydd y tywydd poeth a sych a ddaethod ar ol i ni fynd i ffwrdd - a neb i ddyfrio’r cenin a oedd wedi cael eu osod yn y gwlau newydd. Felly eleni, dan ni yma am bron bythefnos, a gobeithio cawn roi ddigon o dwr i’r planhigion i gadw nhw’n iach.
No comments:
Post a Comment