Gobeithio bydd y coeden yn gwella ar ol dipyn o ofal a llawer o ddŵr! Ond mae angen gwneud pethau eraill yn yr ardd heblaw dyfrio, ac o’r diwedd, dwi wedi gwneud dipyn o waith yn un gwely mafon. Rhywsut, mae’r mafon haf a’r mafon hydref wedi cymysgu yn y gwely yma - mafon ha sydd i fod yna. Ond doedden nhw ddim wedi cael llawer o ofal. Ond ddoe a heddiw, ro’n i’n tynnu’r chwyn i gyd; dyfrio; rhoi dipyn o faeth iddynt, torri’r planhigion a oedd wedi rhoi ffrwythau eleni, a. y.y. b. Yn anffodus gwnes i ddim cymryd llun cyn ddechrau, ond dyma sut roedd y gwely wedi i fi orffen gyda rhoi compost (cartref) ar y gwely.
Dydy’r lluniau ddim yn dda ofnadwy ond dwi’n falch gweld trefn ar y lle. Mae rhyw syniad i’w gael o sut oedd y gwely wrth edrych ar llun y gwely arall.
Mae gormod i’w gwneud, fel arfer. Mae’r afalau cynnar, “Discovery“ i gyd yn barod a mae gymaint ohonyn nhw. Dyma ychydig.
Dwi’n bwyta nhw; mynd a nhw i’r gwaith i fy nghyd-weithwyr, rhoi nhw i ffrindiau a chymdogion, a choginio gyda nhw, a mae 'na llwyth ar ôl. Dwi ddim isio rhoi llawer yn y rhewgell - mae o’n eitha llawn o ffrwythau eraill! Mae ddigonedd o bethau da i'w bwyta ar y funud.
Dwi wedi bod yn twtio yn y tŷ gwydr hefyd - a mae’r nionod a’r shallots i gyd mewn bocsus rŵan ar ol bod yn sychu yn y tŷ gwydr.
A heno mi fyddaf yn gwneud saws tomato i roi yn y rhewgell. Mae rhywbeth am gwneud pethau gyda cynnwys yr ardd, fel rho nhw i ffwrdd am y gaeaf, neu gwneud jam, sydd yn gwneud i fi deimlo’n dda……...
No comments:
Post a Comment