Sefydlwyd y berllan yma nifer o flynyddoedd yn ôl gan Milton Keynes Parcs Trust, a dwi’n meddwl eu bod nhw yn casglu’r afalau (ond coeden afalau sydd yma) er mwy gwneud seidr. Yn yr hydref, mae ddigonedd o afalau i’w gael yn rhad ac am ddim, wedi syrthio o’r coed. Ond erbyn hyn, dydy nhwn ddim mewn cyflwr da iawn.
Serch hynny, dyma wledd i fywyd gwyllt. Yn y bore, wrth fynd heibio i’r gwaith, roedd heidiau o adar o gwmpas, yn cynnwys adar bach, yn amlwg yn bwydo ar ol clwydo dros nos. Erbyn amser cinio, pan es yn ôl, doedd dim gymaint o adar bach, ond digonedd o biôd,adar du, ambell fronfraith a wiwerod.
Pleser llwyr oedd beicio yn ôl i'r gwaith (5 munud) heibio'r defaid tew. Mae 'na gymaint o fanteision i benderfyniad o greu berllan fel 'ma mewn dre.
No comments:
Post a Comment