Dwi wedi bod wrthi yn dechrau hau yn ddiweddar. Yn y ty gwydr, mae hadau tomatos, aubergines, a pupurau wedi mynd i fewn:
Mae'r tywydd yn parhau yn oer, ond mae pethau yn dod ymlaen yn yr ardd:mae'r shalots wedi mynd i fewn ac ond ychydig o'r tatws sydd ar ol i gael eu blannu. Wrth baratoi'r pridd, mi wnes i glirio'r pannas ola:
A cawl pannas oedd y canlyniad:
Mae'r cenin yn dod i ben, hefyd. Dim ond ychydig ar ol, ond yn cynnwys rhai digon da:
No comments:
Post a Comment