Dyma’r hen lwybr braf sydd yn mynd o’r comin i lawr i’r llyn [lle eitha da i hel mwyar duon].
Yn ffodus, roedd y gwartheg reit dawel - dwi wastad yn wyliadwrus wrth mynd trwy cae gwartheg gyda ci, yn enwedig os oes lloi bach.
Wedyn cyrraedd y fferm, i’w weld yn fferm mawr ddiwydianol mewn ffordd. Ac yn llawn o wenoliaid a weonoliaid y tŷ. Heb mynd eto, a’r tywydd yn ddelfrydol ar gyfer bwydo cyn hedfan i ffwrdd.
Ar ôl mynd trwy’r fferm, mae’r llwybr yn troi ac yn mynd i lawr yr allt tuag at yr afon, ond annodd gweld dim gyda’r cae enfawr yn llawn o yd, ac yn anelu at bentre bach Lathbury. Hen bentre sydd wedi ei henwi yn y llyfr ’Doomesday’ gyda hen eglwys yn dyddio yn ôl i’r deuddegfed ganrif.
Mae llwybr trwy’r cae gyferbyn a’r eglwys wedyn yn dilyn yn ôl i Newport Pagnell,
No comments:
Post a Comment