Dwi wastad yn meddwl bod Gwanwyn ar y ffordd erbyn dydd Gwyl Dewi. Ac am unwaith roedd heddiw yn sych, a roeddwn i'n hel atgofion am dydd Gwyl Dewi pan r'on yn blentyn yng Nghaernarfon. Dwi'n cofio cerdded i'r ysgol gan gwybod ein bod ni'n gorffen ysgol hanner dydd - a cael dod adref, a'r pleser o gerdded gan rhagweld y prynhawn rhydd i ddod. Ac wrth sôn am y gorffenol, mi ddois ar draws hen luniau wrth twtio. Dyma un o'r siop teuluol ar y maes yng Nghaernarfon.
Dwi ddim yn siwr pryd cafodd y llun ym ei dynnu, ond fel gwelwch roedd digon o hysbysebu ar yr adeilad! W.J.Owen oedd enw'r siop - "Corn & Seed Merchants" oedd hi. Mae'n anodd gweld yr enw yn y llun, ond mae enw Harpers [drws nesaf dwi'n meddwl?] yn amlwg yn y llun nesaf - lle 'r ydwi ym mreichiau Anti Glad, bron ty allan i'r siop.
Erbyn y chwechdegau fy nhad, fy modryb, Anti Glad, a weithiau 'Wili Vaughan', cefnder fy nhad, odd yn rhedeg y siop. A dyma llun fy nhad yn gweithio ty fewn i'r siop:
Dydy o ddim yn llun da iawn. Mae dydd Gwyl Ddewi yn arbennig o hyd a mi fyddaf yn mynd yn ôl i Gaernarfon am y benwythnos i gymryd rhan yn y Gŵyl ddewi Arall sydd ymlaen. Edrych ymlaen.

No comments:
Post a Comment