Pethau Da
1 Gymaint o ddigwyddiadau yn y Gymraeg. A bydd rhai yn cael eu dilyn rŵan dwi gartref. Er engraifft, awdur y dydd [dydd Sul] oedd Mair Wynn Hughes. Sut oeddwn i ddim wedi clywed amdani hi o’r blaen, dwi ddim yn gwybod - ond cael gwybodaeth gan Bethan Gwanas yn fama.
A mynd i’r sesiwn yn y babell llên, a hefyd i glywed cyfweliad gyda Bethan Gwanas.
Felly mi fyddaf yn bendant yn chwilio am rhai o’r llyfrau - a ia, dwi’n gwybod mai ar gyfer plant mae nhw, ond dim ots, mae rhai llyfrau plant yn ardderchog.
llun
Hefyd clywed Gwyneth Glyn yn canu gyda Twm Morris - albwm newydd yn dod allan gan y ddau.
Pethau a oedd ddim mor dda
1 Gymaint o law ar ddydd Sul - ac yn ofni na fasen yn medru cael bws adref i Gaergybi lle roedden yn aros - felly penerfynnu beido mynd i glwyed Bon Delyn gyda’r nos......
No comments:
Post a Comment