Monday, 4 September 2017

Dechrau da i mis Medi

Cawsom ddechrau da i’r mis.  Dwi wedi bod yn casglu mwyarduon, sydd yn ardderchog eleni, 

ac yn mwynhau tynnu llyniau ben bore i lawr ar y comin.  Dyma llun tynnais bore Gwener, gyda’r tarth ar y comin, a’r haul yn dechrau dod 


- a dyma llun pum munud yn hwyrach gyda’r haul yn dechrau codi go iawn.  Gwych.

Yn ôl yn yr ardd, mi wnes i dipyn o dacluso p’nawn ’ma. Mae rhai rhannau o’r ardd yn eitha flêr, 



ac yn aml, dydy tacluso ddim yn flaenoriaeth, yn enwedig yr adeg yma o’r blwyddyn pan mae ’na gymaint o waith yn yr ardd llysiau, yn casglu ffrwythau a’r courgettes di-ri, a’r ffa....a hefyd casglu be sydd yn tyfu yn y tŷ gydr. [Mi wnes pesto wythnos diwethaf a dros y penwythnos, sydd yn mynd i’r rhewgell].  Ond heddiw penderfynnais bod rhaid gwneud dipyn o dacluso.  Ond mae’n bwysig cael cydbwysedd.  Yn aml, pan dwi’n symud ryw botyn sydd wedi cael ei adael braidd yn flêr, dwi’n darganfod llyffant yn llechu - ac yn bendant dwi eisio sicrhau bod yr ardd yn lle dda i fywyd gwyllt.  Dyma pwy oedd  ol i un botyn:


Wrth weld faint o lyffantod sydd o gwmpas dwi’n meddwl fy mod i wedi llwyddo o ran llyffantod, beth bynnag.  Ond dwi’n meddwl bydd rhaid i fi symud mwy o’r forget-me-nots yma sydd yn tyfu ym mhob man. 


 [Dwi ddim yn siwr beth ydy’r enw gorau Cymraeg? Mae’r geiriadur yn awgrymu "glas y gors" neu "n'ad fi'n angof"] a wedyn bydd yn haws gweld y cyclamen hawdd.  Mae’r eirin yn gwneud yn dda eleni, yn ogystal a’r afalau, er bod rhai ohonynt wedi pydru ar y goeden.  Ych a fi!
 


Serch hynny, mae ’na ddigonedd i fwyta, a cryn llwyddiant gyda’r aubergines hefyd.

2 comments:

  1. Dw i'n caru dy gwefan ti! Dw i wedi dysgu llawer o gair newydd rwan. Bydda'i i'n mynd i drio defnyddio nhw tro nesa dan ni'n siarad. Scarlett x

    ReplyDelete
  2. Diolch Scarlett am ei ddarllen a rhoi syla arna fo

    ReplyDelete