Dan ni ar ein gwyliau yma yn New Mills yn y “Peak District” ar hyn o bryd. Dwi erioed wedi bod i’r dref yma o’r blaen: tre bach wedi datblygu gyda'r diwydiant melinau cotwm. Mae ceunant yn rhedeg dan y dre, a dyma lle adeiladwyd y ran fwyaf o’r felinoedd.
Mae’r ceunant yn ddiddorol dros ben. Mae rheilffordd yn rhedeg trwyddo fo, a mae “Millenium walkway” wedi ei adeiladu fel y gwelir yn y llun:
Braf hefyd ydy gweld dref bach sydd i’w weld yn llwyddo. Yn syddogol mae New Mills tŷ allan I’r Peak District, ond mae’n hawdd iawn cyrraedd llefydd fel Hayfield, o ble mae’n bosib cerdded i'r rhosdiroedd ac i fynny Kinder Scout: mae tren yn rhedeg i Hayfield o New Mills a mae bws, ond hefyd mae’n bosib cerdded yna ar hyd hen reilffordd.
A gwych ydy gweld bod pŵer trydan dŵr yn cael ei gynhyrchu yma: mae o’n eitha fach, ac yn perthyn i’r cymuned.
No comments:
Post a Comment