Felly, yn hytrach na cawl tomato [er bod tomatos ni wedi gorffen, mae tomatos lleol ar gael] cawl cenin sydd ar y fwydlen. Ond wedi dweud hynny, gwnes cawl tomato hyfryd dydd gwener gyda cynhwysion lleol i gyd - shalots a tatws o'r ardd, [gwelir isod] a mae o mor dda i gael bwyd sydd wedi dod o’r ardd, neu gardd rhywun arall reit agos.
Mae digon o waith tacluso a chwynio i wneud yn yr ardd. Ond y gwaith sydd yn cymryd sylw ar y funud ydy’r adnewyddiad y ty gwydr. Mwy am hynny yn y fan, ond un llun bach....mae rhan o'r to newydd [ar y chwith] yn ei le.
Ond dwi'n methu lawrlwythio lluniau diweddar o’r camera. Mae’r teclyn bach sydd yn dal y cerdyn SD ac yn rhoi o i fewn i’r cyfrifiadur yn gwrthod gweithio. Mor rhwystredig! Bydd rhaid mynd i'r siop "afal" yng nghanol Milotn Keynes. Dim rhywbeth i edrych ymlaen ato.
No comments:
Post a Comment