Ac yn hwyr yn y prynhawn, aethon i lawr i warchodfa newydd y 'Parks Trust'. Dwi wedi sôn am MK Parks Trust o'r blaen - nhw ydy awdurdeb unedol i'r holl parciau yn MK, a mae 'na digon ohonyn nhw. Beth bynnag, mae'r parc yma newydd gael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth a ryw bythefnos yn ol, aeth ychydig ohonon ni am dro gyda'r swyddog bioamrywiaeth i cael gweld y lle a gweld be oedd o gwmpas. Ceirw a sgwarnogod, dyna be! A mae hynny falle yn annisgwyl oherwydd mae Magna Parc reit wrth ymyl y traffordd [M1] a hefyd wrth ymyl warysau enfawr John Lewis. Felly dydd o ddim fel ryw baradwys cefngwlad.
Ond efalla am bod y traffordd yn creu un ffin i'r llecyn a bod dim lôn yn mynd trwy'r parc, mae'r bywyd gwyllt yn cael llonydd.
Pan es i yna gyda fy ffrind Jenny gwelson sawl carw dwr Tseineiaidd.
Maent yn ddel iawn - gyda clustiau mawr fel Tedi bêr a does dim rheiddiau [antlers] ganddynt - ond mae ganddynt ysgithredd [tusks].
Dyma llun arall yn dangos eu clustiau mwy
Mae sgwarnogod yn ffynnu yma hefyd. Fel arfer doedd o dim rhy hawdd cael llun digon agos on dwi'n eitha hapus gyda'r llun yma:
Mae lliwiau'r gwair a'r cynhefin yn cuddio'r ceirw a'r sgwarnogod yn dda.
A'r dydd canlynol, dydd poeth ofnadwy, aethom i'r warchodfa lleol. Dyma llun o lygoden bengron goch a oedd yn y warchodfa. Mae un o'r cuddfanau yn y coed [woodland hide] a mae llecyn back wedi ei osod ar gyfer y llygod - gyda canghennau wedi eu osod ar y ddaear. Clywson y gog hefyd - ond am ryw ychydig o eiliadau.
A dyma lle mae'r llygod yn cuddio. Ddoe, gyda fy ffrind wedi mynd, cefais gyfle i fynd allan gyda Martin [y swyddog bioamrywiaeth] o gwmpas y parc sydd yn amgylchu'r Prifysgol Agored, amser cinio, i wneud ymchwiliad i'r neidr y gwair. Cawsom hyd i sawl un weddol ifanc, a dyma un yn llaw Martin cyn i ni ei fesur o [neu hi].
No comments:
Post a Comment