Ond yr wythnos yma hefyd, yn y tri ddiwrnod nesa, dwi isio ailddarllen ‘Tyn y Gorchydd’ ar gyfer ein grwp darllen yn Llundain, nos Iau. O’r diwedd nes i lwyddo i ddarllen y llyfr – a oedd yn heriol mewn llefydd, yn enwedig ar y dechrau, ac yn falch iawn fy mod i wedi ei ddarllen, ond rhaid mynd yn ôl a meddwl amdano dipyn fwy.
Mae o hefyd wedi bod yn amser teuluol, dros Gwyl y Banc – a’r ddau fechan yma am ginio Sul gyda dad. ‘Roedd Teigan isio fi ddarlunio gyda hi, a dyna wnaethon, a darllen stori ar ol stori – ond ‘roedd hi’n amlwg ei bod hi wedi blino yn llwyr (‘roedd Thomas, y brawd bach, wedi ei deffro hi yn gynnar iawn). A dyma hi, a Teo, ar ol i Teo ddod yn ol ar ol mynd am dro – y ddau wedi blino’n llwyr.
Heddiw ro’n yn gobeithio gweld fy mab ifanca – ond mae o’n sal, felly dydd yn rhydd i trio ddal i fyny.
No comments:
Post a Comment