Erioed wedi gweld gymaint o fadarch a sydd o gwmpas eleni. Dwi ddim yn hollol sir be ydy'r un yma er ei fod yn edrych yn iwan. Felly wnes i ddim ei fwyta.
Ac er bod hon
yn edrych fel y fath o fadarch dach chi’n cael o’r siop ac yn bwyta, ’yellow ’stainer’ ydy ei henw yn Saesneg, ac yn ol y sôn mae hi’n wenwynig. Mae llawer o bobl yn sal ar ol ei fwyta ond dim pawb. (A dydy o ddim yn eich lladd chi yn bendant). Dwi’n eitha sicr fy mod i’n un o’r rheina sydd yn medru bwyta hon a wedi bwyta fo yn y gorffenol. Ond wrth mynd yn hŷn, dwi’n dod yn fwy wyliadwrus.
Mae hon, y parasol
yn fwytadwy ac yn dda. Wedi mynd i fewn i risotto wythnos diwethaf. A rywsut, wnaeth fy nghymydog dod ar draws fadarch cyffredin (field mushrooms) ar y comin, a roi rhai i ni - roeddent yn hyfryd! Ond wnes i ddim aros i dynu llun - roedd fy ngŵr wedi gwneud saws gyda nhw mewn chwinciad. Rŵan bydd rhaid i fi ddysgu’r enwa Cymraeg am ffwng.
No comments:
Post a Comment