Ond creaduriaid anwadal ydynt! Roeddent yna dydd Llun, Mawrth, Mercher Iau a dydd Gwener yn ol bob sôn, ond dim dydd Sadwrn na dydd Sul. Peth felly ydy gwylio bywyd gwyllt. Ond gan bod ni yna, a hithau’n bore gwyntog ac oer (ond haelog!) cerddon ar hyd lan yr afon i weld y gŵyddau. Gŵydd Eifftiaid? ydy’r rhain (Egyptian goose)- wedi dianc rywbryd: dydyn nhw ddim yn wreiddiol o’r wlad yma, ond maent yn eitha hardd.
Ac yn ol gartref, erbyn dydd Mawrth (y degfed) penderfynodd y llyffantod ddychwelyd i’r pwll. Am flynyddoedd ’roedd y grifft yn dod o gwmaps dydd Ddewi Sant. Mae’r dyddiad wedi mynd dipyn yn hwyrach yn ddiweddar, ond aeth yr wythnos gyntaf o Fawrth hebio eleni gyda dim arwydd o gwbl. Ond wrth fynd i’r tŷ gwydr, bore Mawrth, roedd gymaint o fywiogrwydd yn y pwll, a mwy o lyffantod nac erioed. Am unwaith r’oedd yn weddol agosau at y llyffantod digon i gael lluniau. A rŵan mae’r pwll yn llawn o grifft.
Ddoe, daeth gwalch glas i’r ardd a dal a lladd ’sguthan druan wrth yml y pwll. Wedyn aeth a hi wrth yml y giât cefn i’w bwyta. Dwi ddim wedi gweld y gwalch glas mor agos yn aml, a mae hi wir yn aderyn hardd ond gyda llygaid melyn treiddgar a ffyrnig. mae’r fenyw yn llawer mwy na’r gwrw - sydd yn beth gyffredin mewn adar ysglyfaethus. A pham gwalch glas? Brown ydy’r fenyw, fel gwelwch, a llwyd ac oren ydy’r gwrw. Ond mae llwyd a glas yn eitha debyg....
No comments:
Post a Comment