Ond mae’na fanteision i’w gael am fod allan yn gynnar. Dyma gwyfun a oedd yn y tŷ gwydr dros nos. Scarlet tiger moth.
A felly cefais awrun hapus - mwy nac awr - yn y tŷ gwydr yn gosod y tomatos a phupurau yn y quadgrow. Ac wrth gnweud hynny, gwrando ar rifyn o Galwad Cynnar ddiweddar nad oeddwn wedi clywed ar BBC Sounds. Galwad Cynnar ydy un o fy hoff raglenni - fy ffefren, dwi’n meddwl. Ar y rhaglen yma, ymysg pethau eraill, dysgais bod eos yn medru canu mil nodyn, a chlywais yr enwau Gymraeg am lawer o flodau gwyllt.
A fel gyda’r nos, mae’r golau yn wych yn gynnar yn y bore. Mae’r ardd wedi bod yn hyfryd ym mis Mai Mae’r iris (gellysg?) wedi bod yn wych, a’r peony, a mae bysedd y cŵn allan rŵan.
Mae na ddigon o chwyn, hefyd, yn enwedig yn y rhan o’r ardd lle mae’r tatws a’r ffa llydan yn tyfu. Ty hwnt i’r gwely mae llwyth o las y gors a chwyn ond wrth gwylio gymaint o wenyn o gwmpas, dwi am ei adael am dipyn.
A wedyn am dro ar y comin. Hapus i gael lun o fras y cyrs. Digon ohonyn nhw ar y comin, ond bob tro dwi’n hoffi eu gweld. Am aderyn smart!
No comments:
Post a Comment